Meirionnydd (etholaeth seneddol)
Meirionnydd Etholaeth Sir | |
---|---|
Creu: | 1542 |
Diddymwyd: | 1983 |
Math: | Tŷ'r Cyffredin |
Aelodau: | Un |
Etholaeth seneddol Meirionnydd oedd yr etholaeth seneddol ar gyfer yr hen Sir Feirionnydd (Meirion). Un o'r gwleidyddion enwocaf i gynrychioli'r etholaeth wledig hon oedd y Rhyddfrydwr radicalaidd Tom Ellis, fu'n AS Meirionnydd rhwng 1886 ac 1899.
Yr AS olaf i ddal sedd Meirionnydd yn San Steffan oedd Dafydd Elis-Thomas (Plaid Cymru), a ddaeth yn ddiweddarach yn un o'i harweinyddion. Cafodd y sedd ei dileu ym 1983 pan ffurfiwyd etholaeth newydd Meirionnydd Nant Conwy, a gipiwyd gan Dafydd Elis-Thomas i Blaid Cymru.
Aelodau Seneddol
[golygu | golygu cod]ASau 1542-1868
[golygu | golygu cod]ASau 1868-1983
[golygu | golygu cod]Canlyniadau Etholiadau ers Deddf Diwigio'r Senedd 1832
[golygu | golygu cod]Ffynhonnell:[2]
Etholiadau 1832 i 1868
[golygu | golygu cod]Etholiad cyffredinol 1832: Meirionnydd
Nifer yr etholwyr 580 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Ceidwadwyr | Syr Robert Williames Vaughan | diwrthwynebiad | |||
Ceidwadwyr yn cadw | Gogwydd |
Etholiad cyffredinol 1835: Meirionnydd
Nifer yr etholwyr 698 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Ceidwadwyr | Syr Robert Williames Vaughan | diwrthwynebiad | |||
Ceidwadwyr yn cadw | Gogwydd |
Fe ymddiswyddodd Syr Robert Williames Vaughan o'r sedd ar 27in Gorffennaf 1836 a chynhaliwyd isetholiad
Is Etholiad 1836: Meirionnydd
nifer yr etholwyr 785 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Ceidwadwyr | Richard Richards | 501 | 76.9 | ||
Rhyddfrydol | Syr Watkin Wynn | 150 | 23.1 | ||
Ceidwadwyr yn cadw | Gogwydd |
Etholiad cyffredinol 1837: Meirionnydd
Nifer yr etholwyr 698 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Ceidwadwyr | Richard Richards | diwrthwynebiad | |||
Ceidwadwyr yn cadw | Gogwydd |
Fe barhaodd Richard Richards i fod yn AS Geidwadol diwrthwynebiad yn etholiadau 1841 a 1847. Yn etholiad 1852 etholwyd William Watkin Edward Wynne yn AS Ceidwadol heb wrthwynebiad.
Etholiad cyffredinol 1859: Meirionnydd
Nifer yr etholwyr 1,091 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Ceidwadwyr | William Watkin Edward Wynne | 389 | 52.7 | ||
Rhyddfrydol | David Williams | 351 | 47.3 | ||
Ceidwadwyr yn cadw | Gogwydd |
Etholiad cyffredinol 1865: Meirionnydd
Nifer yr etholwyr 1,527 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Ceidwadwyr | William Robert Maurice Wynne | 610 | 51.3 | ||
Rhyddfrydol | David Williams | 579 | 48.7 | ||
Ceidwadwyr yn cadw | Gogwydd |
Wedi gweld yr ysgrifen ar y mur penderfynodd y sgweieriaid Ceidwadol i beidio a sefyll ymgeisydd yn etholiad 1868 ac etholwyd David Williams, Castell Deudraeth, yn ddiwrthwynebiad ar ran y Blaid Ryddfrydol. Fe barhaodd Meirionnydd fel sedd Ryddfrydol o 1868 i 1951
Etholiadau'r 1870au y 1880au a'r 1890au
[golygu | golygu cod]Bu farw David Williams [3] yn Rhagfyr 1869 a chynhaliwyd isetholiad yn Ionawr 1870.
Isetholiad Ionawr 1870: Meirionnydd
Nifer yr etholwyr 3,187 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | Samuel Holland | 1,610 | 62.6 | ||
Ceidwadwyr | C. T. Tottenham | 963 | 37.4 | ||
Rhyddfrydol yn cadw | Gogwydd |
Ail etholwyd Samuel Holland yn ddiwrthwynebiad ym 1874
Etholiad cyffredinol 1880: Meirionnydd
Nifer yr etholwyr 3,571 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | Samuel Holland | 1,860 | 63.4 | ||
Ceidwadwyr | A M Dunlop | 1,074 | 36.6 | ||
Rhyddfrydol yn cadw | Gogwydd |
Etholiad cyffredinol 1885: Meirionnydd
Nifer yr etholwyr 9,333 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | Henry Robertson | 3,784 | 47.9 | ||
Ceidwadwyr | W R M Wynn | 2,209 | 27.9 | ||
Rhyddfrydwr Annibynnol | Morgan Lloyd | 1,907 | 24.2 | ||
Rhyddfrydol yn cadw | Gogwydd |
Nodyn: Er iddo gael ei ethol fel ymgeisydd swyddogol y Blaid Ryddfrydol fe ddaeth Henry Robertson yn Rhyddfrydwr Unoliaethol yn fuan ar ôl yr etholiad. Fe unodd y Rhyddfrydwyr Unoliaethol a'r Blaid Geidwadol mewn gwrthwynebiad i gefnogaeth Y Brif Weinidog Gladstone i ymreolaeth i'r Iwerddon. Fe drodd Morgan Lloyd at yr Unoliaethwyr hefyd, gan sefyll drostynt yn etholaeth Môn ym 1892 [4]
Etholiad cyffredinol 1886: Meirionnydd
Nifer yr etholwyr 9,333 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | Thomas Edward Ellis (Rhyddfrydwr Gladstonaidd) | 4,127 | 59.1 | ||
Ceidwadwyr | W R M Wynn | 2860 | 40.9 | ||
Rhyddfrydol yn cadw | Gogwydd |
Etholiad cyffredinol 1892: Meirionnydd
Nifer yr etholwyr 9,137 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | Thomas Edward Ellis | 5,175 | 72.8 | ||
Ceidwadwyr | H Owen | 1,937 | 27.2 | ||
Rhyddfrydol yn cadw | Gogwydd |
Gan iddo gael ei ddyrchafu yn Arglwydd Gomisiynydd y Trysorlys yn Awst 1892 bu'n rhaid cynnal isetholiad ond ail etholwyd Tom Ellis yn ddiwrthwynebiad
Etholiad cyffredinol 1895: Meirionnydd
Nifer yr etholwyr 8,983 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | Thomas Edward Ellis | 5,173 | 69.9 | ||
Ceidwadwyr | C E Owen | 2,232 | 30.1 | ||
Rhyddfrydol yn cadw | Gogwydd |
Bu farw Thomas Edward Ellis ar 5 Ebrill 1899. Etholwyd Owen Morgan Edwards i'w olynu yn ddiwrthwynebiad, safodd Edwards i lawr ar ddiwedd y tymor etholiadol heb geisio cael ei ail-ethol
Etholiadau 1900 - 1918
[golygu | golygu cod]Dim ond un etholiad cystadlaeol bu yn y cyfnod yma.
Yn etholiadau 1900 a 1906 cafodd Arthur Osmond Williams, mab hynaf David Williams AS Meirionnydd rhwng 1868 a 1870, ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Blaid Ryddfrydol.[5]
Etholiad cyffredinol Ionawr 1910: Meirionnydd
Nifer yr etholwyr 9,365 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | Henry Haydn Jones | 6,065 | 76.4 | ||
Ceidwadwyr | R Jones Morris | 1,873 | 23.6 | ||
Rhyddfrydol yn cadw | Gogwydd |
Ail-etholwyd Haydn Jones yn ddiwrthwynebiad yn etholiadau mis Rhagfyr 1910 a 1918
Etholiadau'r 1920au
[golygu | golygu cod]Etholiad cyffredinol 1922: Meirionnydd
Nifer yr etholwyr 22,017 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | Henry Haydn Jones | 9,903 | 58.3 | ||
Llafur | J J Roberts | 7,071 | 41.7 | ||
Rhyddfrydol yn cadw | Gogwydd |
Etholiad cyffredinol 1923: Meirionnydd
Nifer yr etholwyr 22,666 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | Henry Haydn Jones | 11,005 | 60.5 | ||
Llafur | J J Roberts | 7,181 | 39.5 | ||
Rhyddfrydol yn cadw | Gogwydd |
Etholiad cyffredinol 1924: Meirionnydd
Nifer yr etholwyr 23,013 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | Henry Haydn Jones | 9,228 | 47.8 | ||
Llafur | J J Roberts | 6,393 | 33.1 | ||
Ceidwadwyr | R Vaughan | 3,677 | 19.1 | ||
Rhyddfrydol yn cadw | Gogwydd |
Etholiad cyffredinol 1929: Meirionnydd
Nifer yr etholwyr 28,836 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | Henry Haydn Jones | 11,865 | 48.2 | ||
Llafur | J J Roberts | 7,980 | 32.5 | ||
Ceidwadwyr | C Philbbs | 4,731 | 19.3 | ||
Rhyddfrydol yn cadw | Gogwydd |
Etholiadau'r 1930au
[golygu | golygu cod]Etholiad cyffredinol 1931: Meirionnydd
Nifer yr etholwyr 28,973 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | Henry Haydn Jones | 9,756 | 40.8 | ||
Llafur | J H Howard | 7,807 | 32.6 | ||
Ceidwadwyr | C Philbbs | 6,372 | 26.6 | ||
Rhyddfrydol yn cadw | Gogwydd |
Etholiad cyffredinol 1935: Meirionnydd
Nifer yr etholwyr 28,985 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | Henry Haydn Jones | 9,466 | 40.0 | ||
Llafur | Thomas William Jones | 8,317 | 35.2 | ||
Ceidwadwyr | C Philbbs | 5,686 | 24.8 | ||
Rhyddfrydol yn cadw | Gogwydd |
Etholiadau'r 1940au a'r 1950au
[golygu | golygu cod]Etholiad cyffredinol 1945: Meirionnydd
Nifer yr Etholwyr 28,845 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | Emrys Owain Roberts | 8,495 | 35.8 | ||
Llafur | H M Jones | 8,383 | 35.4 | ||
Ceidwadwyr | C P Hughes | 4,474 | 18.5 | ||
Plaid Cymru | Gwynfor Evans | 2,448 | 10.3 | ||
Rhyddfrydol yn cadw | Gogwydd |
Etholiad cyffredinol 1950: Meirionnydd
Nifer yr Etholwyr 27,941 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | Emrys Owain Roberts | 9,647 | 38.8 | ||
Llafur | O Parry | 8,577 | 34.6 | ||
Ceidwadwyr | J F W Wynne | 3,846 | 15.5 | ||
Plaid Cymru | Gwynfor Evans | 2,754 | 11.1 | ||
Rhyddfrydol yn cadw | Gogwydd |
Etholiad cyffredinol 1951: Meirionnydd
Nifer yr Etholwyr 28,019 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Llafur | Thomas William Jones | 10,505 | 42.9 | ||
Rhyddfrydol | Emrys Owain Roberts | 9,457 | 38.7 | ||
Ceidwadwyr | William Geraint Oliver Morgan | 4,505 | 15.5 | ||
Llafur yn disodli Rhyddfrydol | Gogwydd |
Etholiad cyffredinol 1955: Meirionnydd
Nifer yr Etholwyr 27,472 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Llafur | Thomas William Jones | 8,577 | 38.8 | ||
Rhyddfrydol | H E Jones | 6,370 | 26.9 | ||
Plaid Cymru | Gwynfor Evans | 5,243 | 22.1 | ||
Rhyddfrydwr Cenedlaethol a Cheidwadol | J V Jenkins | 3,001 | 12.7 | ||
Llafur yn cadw | Gogwydd |
Etholiad cyffredinol 1959: Meirionnydd
Nifer yr Etholwyr 26,435 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Llafur | Thomas William Jones | 9,095 | 40.8 | ||
Rhyddfrydol | B G Jones | 8,119 | 36.3 | ||
Plaid Cymru | Gwynfor Evans | 5,127 | 22.9 | ||
Llafur yn cadw | Gogwydd |
Etholiadau'r 1960au
[golygu | golygu cod]Etholiad cyffredinol 1964: Meirionnydd
Nifer yr Etholwyr 26,392 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Llafur | Thomas William Jones | 8,420 | 38.4 | ||
Rhyddfrydol | Richard Oliver Jones | 7,171 | 32.7 | ||
Plaid Cymru | Elystan Morgan | 3,697 | 16.8 | ||
Ceidwadwyr | A Lloyd Jones | 2,656 | 16.8 | ||
Llafur yn cadw | Gogwydd |
Etholiad cyffredinol 1966: Meirionnydd
Nifer yr Etholwyr 25,395 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Llafur | William Henry Edwards | 9,628 | 44.2 | ||
Rhyddfrydol | E G Jones | 7,733 | 35.5 | ||
Plaid Cymru | J L Jenkins | 2,490 | 11.4 | ||
Ceidwadwyr | A Lloyd Jones | 1,948 | 8.9 | ||
Llafur yn cadw | Gogwydd |
Etholiadau'r 1970au
[golygu | golygu cod]Etholiad cyffredinol 1970: Meirionnydd
Nifer yr Etholwyr 26,434 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Llafur | William Henry Edwards | 9,628 | 39.8 | ||
Plaid Cymru | Dafydd Wigley | 5,425 | 24.3 | ||
Rhyddfrydol | E Thomas | 5,034 | 22.6 | ||
Ceidwadwyr | D E H Edwards | 2,965 | 13.3 | ||
Llafur yn cadw | Gogwydd |
Etholiad cyffredinol Chwefror 1974: Meirionnydd
Nifer yr Etholwyr 26,566 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Plaid Cymru | Dafydd Elis Thomas | 7,823 | 34.6 | ||
Llafur | William Henry Edwards | 7,235 | 32.08 | ||
Rhyddfrydol | Iolo ab Eurfyl Jones | 4,153 | 18.4 | ||
Ceidwadwyr | Roy R Owen | 3,392 | 15 | ||
Plaid Cymru yn disodli Llafur | Gogwydd |
Etholiad cyffredinol Hydref 1974: Meirionnydd
Nifer yr Etholwyr 26,728 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Plaid Cymru | Dafydd Elis Thomas | 9,543 | 42.5 | ||
Llafur | William Henry Edwards | 6,951 | 32.08 | ||
Rhyddfrydol | Richard Oliver Jones | 3,454 | 15.4 | ||
Ceidwadwyr | Roy R Owen | 2,509 | 11.2 | ||
Plaid Cymru yn cadw | Gogwydd |
Etholiad cyffredinol 1979: Meirionnydd | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Plaid Cymru | Dafydd Elis Thomas | 9,275 | 40.8 | ||
Ceidwadwyr | Robert Harvey | 5,365 | 23.6 | ||
Llafur | R. H. Jones | 5,332 | 23.5 | ||
Rhyddfrydol | John H. Parsons | 2,752 | 12.1 | ||
Mwyafrif | 3,910 | 17.2 | |||
Y nifer a bleidleisiodd | 22,724 | 83.4 | |||
Plaid Cymru yn cadw | Gogwydd |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cynrychiolaeth Sir Feirionnydd Y Celt, 14 Awst 1885 [1] adalwyd 17 Mai 2015
- ↑ James, Arnold J a Thomas, John E. Wales at Westminster - A History of the Parliamentry Representation of Wales 1800-1979 Gwasg Gomer 1981 ISBN 0 85088 684 8
- ↑ Seren Cymru 24 Rhag 1869 "Marwolaeth Mr D Williams AS Casteldeudraeth" http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3198504/ART38/
- ↑ Y Bywgraffiadur ar Lein Morgan Lloyd (1820 - 1893)http://yba.llgc.org.uk/cy/c-LLOY-MOR-1820.html?query=Morgan+Lloyd&field=name
- ↑ Y Bywgraffiadur Ar Lein WILLIAMS (TEULU), Bron Eryri (a elwid Castell Deudraeth yn ddiweddarach), sir Feirionnydd http://yba.llgc.org.uk/cy/c-WILL-BRO-1800.html?query=osmond+williams&field=content