Elystan Morgan
Gwleidydd Cymreig yw 1979Dafydd Elystan Morgan, Barwn Elystan-Morgan (ganwyd 7 Rhagfyr, 1932). Roedd yn fab i'r prifardd Dewi Morgan prifardd y gadair, Eisteddfod Pwllheli 1925
Dechreuodd ei yrfa wleidyddol fel aelod o Blaid Cymru. Safodd dros y blaid yn is-etholiad seneddol Mawrth 1955 yn etholaeth Wrecsam, ac wedyn yn Etholiad Cyffredinol 1955, ac yna yn 1959 gan gael 6,579 pleidlais. Roedd Gwynfor Evans wedi penderfynnu sefyll yn Etholaeth Caerfyrddin yn hytrach na Meirionnydd ac fe safodd Elystan yn ei le ym Meirionnydd. Siomedig oedd etholiad cyffredinol 1964 i Blaid Cymru ac fe ymunodd Elystan â'r Blaid Lafur yn Awst 1965. Yn Etholiad Cyffredinol 1966 safodd yn Etholaeth Ceredigion ac ennill y sedd i Lafur oddi ar Roderick Bowen, Rhyddfrydwr, gyda 523 o fwyafrif. Collodd y sedd yn 1974 i Geraint Howells, Rhyddfrydwr ac amaethwr lleol. Yr oedd Elystan wedi digio nifer o gefnogwyr y blaid wrth ochri gyda charfan Seisnig yng nghangen Plaid Lafur yr etholaeth a oedd yn uchel eu cloch yn erbyn sefydlu ysgol gyfun ddwyieithog yn Aberystwyth. Methiant fu ei ymdrech am y tro olaf i fynd i'r Tŷ'r Cyffredin drwy sefyll ym Môn yn etholiad cyffredinol 1979.[1]
Cafodd ei wneud yn farwn a heddiw mae'n arddel y teitl Barwn Elystan-Morgan. Bu'n aelod gweithgar o Dŷ'r Arglwyddi.
Llyfryddiaeth[golygu]
- Elystan - Atgofion Oes (2012)
| Senedd y Deyrnas Unedig | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Roderic Bowen |
Aelod Seneddol dros Geredigion 1966 – 1974 |
Olynydd: Geraint Howells |
Ffynonellau[golygu]
- ↑ Vaughan Hughes Barn Rhifyn 599/600 Rhagfyr/Ionawe 2012/1213