Hugh Lewis Owen

Oddi ar Wicipedia
Hugh Lewis Owen
Galwedigaethcyfreithiwr Edit this on Wikidata

Roedd Hugh Lewis Owen (weithiau Hugh Owen neu Huw ap Lewys ab Owain; marw tua 1628) yn gyfreithiwr a bonheddwr Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Boskyny (Saesneg: Bossiney) yng Nghernyw ym 1563 a Meirionnydd ym 1571[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Does dim sicrwydd o ddyddiad na blwyddyn geni Huw ond gwyddys ei fod yn ail fab y Barwn Lewys ab Owain o’r Llwyn, Dolgellau a Margaret merch Robert Pulston o Hafod y Wern, Wrecsam. Brawd i Hugh oedd John Lewis Owen a’i olynodd fel Aelod Seneddol Meirionnydd.

Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen rhwng 1550 a 1553

Priododd  Catrin ferch Siôn ap Huw ab Ieuan o Fathafarn, Llanwrin; bu iddynt o leiaf pedwar mab a dwy ferch. 

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Cyn iddo gael ei ladd gan Wylliaid Cochion Mawddwy gwasanaethodd tad Hugh mewn nifer o swyddi cyhoeddus gan gynnwys Barwn y Trysorlys, Uchel Siryf Meirionnydd, AS ac Ynad Heddwch. Bu swyddi o’r fath, yn y cyfnod wedi Deddfau'r Cyfreithiau yng Nghymru 1535 a 1542 yn ddull i uchelwyr gasglu grym, golud a thiroedd i’w hunain a’u teuluoedd. Trwy ddylanwad ei dad daeth Huw yn berchennog ar ystâd Cae’r Berllan ger Llanfihangel-y-Pennant.

Yn ogystal â bod yn dirfeddiannwr bu Huw yn gwasanaethu fel twrnai. Cafodd ei alw i’r bar tua 1556 yn Lincoln's Inn a bu’n ymarfer yn ardal Llwydlo yn ogystal â gweithredu fel eiriolwr yn yr anghydfodau niferus rhwng gwahanol ganghennau o’i deulu ac uchelwyr eraill gogledd Cymru.

Clodforwyd gallu a dysg Huw mewn cerdd iddo gan Owain Gwynedd:

Gŵr yw, ac ar rediad,
A gloes dysg Lewis ei dad;
Duw sy gynnydd dysg uniawn
Oni bydd dysg ni bydd dawn;
Diwyno pawb, dyn pybyr,
 dysg wan i dwyso gwŷr;
Gŵr o ddysg â gradd ysgol
A gwaed rhwysg a geidw y rhòl;
A ddôi radd ar a weddai
I’r Inns of Court ar nas câi.
[2]

Gwasanaethodd fel Ynad Heddwch ar fainc Meirionnydd o 1569 ac fel siedwr o 1570 i 1571 ac eto o 1574 i 1575. 

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod]

Trwy gysylltiadau Syr Robert Dudley (Iarll Leicester, wedyn) cafodd ei benodi’n Aelod Seneddol Boskyny. Bu cystadleuaeth am sedd Meirionnydd ym 1571. Yn y cyfnod yma roedd etholiad, nid yn unig yn fodd o ethol cynrychiolydd i’r Senedd, ond hefyd i weld pa deulu oedd y cryfaf a’r mwyaf dylanwadol mewn bro. Safodd Huw yn erbyn John Salisbury, Rûg. Oherwydd y drwgdeimlad a fodolai rhwng teulu'r Llwyn a theulu Rûg, poenai’r awdurdodau y gallasai’r etholiad droi’n waedlyd. Gorchymynnodd Cyngor Cymru a’r Gororau i’r Siryf, Siôn Iorwerth, Prysg, i sicrhau nad oedd unrhyw un oedd yn cario arfau yn cael pleidleisio[3].

Llwyddodd Huw i gipio’r sedd wedi i Elis Prys, Plas Iolyn ddatgan ei gefnogaeth iddo. Ni cheir cofnod o unrhyw weithgaredd yn y Senedd gan Hugh Lewis Owen[4].

Bu teulu Salisbury yn gwrthwynebu cyfaill Huw Lewys, yr Arglwydd Leicestr a oedd yn archwilio Coedwigoedd y Goron yn Eryri. Credid y byddai’r coedwigoedd yn lle da i Gatholigion a chefnogwyr Mari, Brenhines yr Alban i guddio. (Roedd teulu Salisbury yn Gatholigion a dienyddiwyd un o'r tylwyth, Syr Thomas Salisbury am ei ran mewn cynllwyn i ladd Elisabeth I). I geisio rhwystro’r ymchwiliad cam-gyhuddwyd Huw a phump o fân-bonheddwyr eraill o fod yn gynllwynwyr yn erbyn y Frenhines. Galwyd y chwech gerbron y Cyfrin Gyngor danfonwyd y pump arall i Garchar y Fleet i aros prawf pellach. Llwyddodd Huw i glirio ei enw.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Does dim sicrwydd pa bryd y bu farw Huw, ond yn sicr bu farw cyn 1628 pan fu Rhisiart Phylip yn canu i Siôn, mab Huw, fel penteulu Cae’r Berllan[5]. Cannodd Siams Dwnn marwnad i Huw[6].  

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. History of Parliament online Hugh Owen adalwyd 4 Mehefin 2017
  2. Davies, Glenys, tud 17 Noddwyr Beirdd ym Meirion; Wasg y Sir; Bala, 1974
  3. Smith, J B & Smith, Ll tud 674 History of Merioneth Volume II; Gwasg Prifysgol Cymru 2001. ISBN 0-7083-1709-X
  4. W R Williams Parliamentary History of the Principality of Wales adalwyd 4 Mehefin 2017
  5. Davies, Glenys, tud 19 Noddwyr Beirdd ym Meirion; Wasg y Sir; Bala, 1974
  6. Astudiaeth O Fywyd a Gwaith Siams Dwnn C. 1570 - C. 1660 adalwyd 4 Mehefin 2017
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Elis Prys
Aelod Seneddol Meirionnydd
15711572
Olynydd:
John Lewis Owen