Elis Prys (Y Doctor Coch)

Oddi ar Wicipedia
Elis Prys
Ganwyd1505 Edit this on Wikidata
Sir Ddinbych Edit this on Wikidata
Bu farw8 Hydref 1594 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd 1558, Member of the 1563-67 Parliament Edit this on Wikidata
PlantTomos Prys Edit this on Wikidata

Uchelwr o Blas Iolyn, ger Rhydlydan (Conwy heddiw ond yn Sir Ddinbych yn yr amser hwnnw) oedd Elis Prys (c.1512 - 1594). Roedd yn adnabyddus fel "Y Doctor Coch o Blas Iolyn" am ei fod yn gwisgo'r gown ysgarlad academaidd a gafodd ar ôl graddio ym Mhrifysgol Caer-grawnt.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Chwareodd y Dr Prys ran bwysig yng ngwleidyddiaeth yr oes yng ngogledd Cymru. Yn 1535 cafodd ei benodi gan Thomas Cromwell i oruwchwylio diddymu'r mynachlogydd yng Nghymru. Gwnaeth ei waith yn drwyadl a bu hynny yn achos sawl cwyn yn ei erbyn yn honni ei fod yn elwa'n bersonol o'r gwaith. Yn nes ymlaen, yn nheyrnasiad y breninesau Mari ac Elisabeth, bu'n Aelod Seneddol dros Sir Feirionnydd, ac yn Uchel Siryf Sir Ddinbych, Meirionnydd, Sir Fôn a Sir Gaernarfon.

Roedd Elis Prys yn noddwr hael i rai o brif feirdd y cyfnod. Adnewyddiodd Blas Iolyn tua'r flwyddyn 1560 a daeth yn gyrchfan poblogaidd er ei fod mor anghysbell. Ymhlith y beirdd a ganodd glod lletygarwch Plas Iolyn y mae Tudur Aled a Siôn Tudur.

Roedd y bardd Tomos Prys (c.1564-1634) yn fab iddo.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]