Mariupol
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn yr Wcráin ydy Mariupol. Mae wedi ei lleoli ar lan Môr Azov. Mae'n borthladd masnachol a cheir yma orsaf reilffordd a maes awyr.
Hanes [golygu]
Fe'i sefydlwyd yn y 16eg ganrif. Enwau blaenorol: Pavlovsk (1778-1779), Zhdanov (1948-1989).
Poblogaeth [golygu]
Roedd y boblogaeth yn 486,590 yn 2011. Mae'n gosmopolitan iawn a cheir yma bobl o Wcrein, Rwsia a Glawd Groeg.
Diwydiant [golygu]
Mae yma ddiwydiant trwm: e.e. gweithfeydd dur mawr "Azovstal" a "Illych" a pheirianneg fecanyddol yn "Azovmash"). Ceir yma hefyd weithfeydd adeiladu llongau, ffatri dillad ayb.