Alushta
Oddi ar Wicipedia
Dinas fechan yn y Crimea, Wcráin, sy'n ganolfan gwyliau glan môr yw Alushta (Wcreineg, Алушта; Rwseg, Алушта; Tatareg Crimea, Aluşta). Fe'i sefylwyd yn y 6ed ganrif gan yr Ymerodr Bysantaidd Justinian. Mae'n gorwedd ar lan y Môr Du ar y ffordd arfordirol rhwng Gurzuf a Sudak. Mae ffordd dros Fwlch Angarskyi, ym Mynyddoedd Crimea, yn ei chysylltu â Simferopol, prifddinas Gweriniaeth Ymreolaethol Crimea.
Mae'r ardal yn nodedig am ei thirwedd greigiog. Ceir olion gwaith amddiffynnol Bysantaidd a chaer Genoaidd o'r 15fed ganrif yno. Dan y Bysantaidd adnabyddid y dref fel Aluston (Αλουστον), a Lusta oedd yr enw yng nghyfnod rheolaeth Genoa. Cyflwynodd y bardd Adam Mickiewicz ddau o'u sonedau am y Crimea i Alushta.

