Bwlch Angarskyi
Oddi ar Wicipedia
Golygfa ar Fwlch Angarskyi a Mynydd Demerdzhy o lethrau isaf mynydd Chatyr-Dag
Bwlch ym Mynyddoedd Crimea, ar orynys Crimea, Wcráin, yw Bwlch Angarskyi (Wcreineg, Ангарський перевал; Rwseg, Ангарский перевал; Tartareg Crimea, Anğara boğazı). Dyma'r pwynt ucaf ar draffordd Simferopol-Alushta, 752m i fyny. Mae'n cymryd ei enw o Afon Angara, un o ledneintiau Afon Salhir.
Dim ond llwybr traed a oedd yno yn yr Oesoedd Canol. Agorwyd llwybr post gan y Rwsiaaid yn 1824-26. Gwellhawyd y ffordd ddwywaith, yn 1935 a 1959.
Mae Bwlch Angarskyi yn ganolfan gwyliau gaeaf boblogaidd yn Crimea ac eiff llawer o bobl yno i sgïo.