Piraeus

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Porthladd Piraeus gyda'r nos

Piraeus (Groeg: Πειραιάς Pireás) yw porthladd Athen yng Ngwlad Groeg a'r porthladd pwysicaf yn y wlad honno. Mae'n gorwedd ar lan Gwlff Saronica i'r de-orllewin o Athen ei hun.

Sefydlwyd Piraeus yn y bumfed ganrif CC fel porthladd i Athen. Chwareuodd ran bwysig yn y rhyfeloedd rhwng Athen a'r Ymerodraeth Bersiaidd (gweler Rhyfeloedd Athen a Phersia). Ar ôl y rhyfeloedd hynny codwyd Muriau Hir Athen i gysylltu'r ddinas a Piraeus ac amddiffyn y tir rhyngddyn nhw.

Dioddefodd Piraeus ddifrod sylweddol yn yr Ail Ryfel Byd mewn canlyniad i fomio o'r awyr. Ers hynny mae hi wedi ei adeiladu ar raddfa eang a thyfu'n ganolfan diwydiant pwysig gyda iardau adeiladu llongau, gweithfeydd puro olew a gweithfeydd cemegol.