Llanfihangel Bachellaeth

Oddi ar Wicipedia
Llanfihangel Bachellaeth
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.881°N 4.52°W Edit this on Wikidata
Map

Plwyf eglwysig yng Ngwynedd yw Llanfihangel Bachellaeth yng nghymuned Buan. Fe'i lleolir i'r gogledd-ddwyrain o bentref Llanbedrog ac mae'n rhan o reithoriaeth Llanbedrog.

Yn yr Oesoedd Canol bu Llanfihangel Bachellaeth yn rhan o gwmwd Cafflogion yng nghantref Llŷn.

Cysegrir eglwys y plwyf i Sant Mihangel. Cyfeiria'r yr enw 'Bachellaeth' at safle hen blasdy yn y gymdogaeth, i gyfeiriad Madryn, yn ôl yr hynafiaethydd John Jones (Myrddin Fardd).[1] Ceir sawl Llanfihangel yng Nghymru ac fel rheol ceir enw arall wedi'i atodi er mwyn gwahaniaethu; ond dyma'r unig Llanfihangel yn Llŷn. Mae eglwys y plwyf yn cael ei ddefnyddio fel stiwdio artist erbyn hyn (2010).

Hen eglwys Llanfihangel Bachellaeth

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Am restr gynhwysfawr o lefydd o'r enw 'Llanfihangel', gweler yma.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. D. T. Davies (gol.), Hanes Eglwysi a Phlwyfi Lleyn (Pwllheli, 1910), tud. 120.