Madryn (stâd)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Stâd ar benrhyn Llŷn oedd yn arfer bod ymhlith y pwysicaf yng ngogledd-orllewin Cymru oedd Madryn. Roedd y teulu yn ddylanwadol iawn yng ngwleidyddiaeth a bywyd cymdeithasol Llŷn am gyfnod hir.

Castell Madryn: y wersyll carafanau.

Safai'r stâd i'r de o Forfa Nefyn ac i'r gogledd-ddwyrain o fryn Carn Fadryn, yng nghymuned Buan. Castell Madryn oedd enw'r plasdy. Y mwyaf adnabyddus o berchenogion Madryn oedd Syr Love Jones-Parry, fu a rhan mewn sefydlu Y Wladfa ym Mhatagonia. Enwyd Porth Madryn yno ar ôl ei stad.

Erbyn hyn mae Castell Madryn wedi ei chwalu, a'r tir o'i amgylch yn wersyll carafannau. Erys y gatws, lle ganed y bardd John Owen Williams (Pedrog).

Cyfeiriadaeu [golygu]

Gweler hefyd [golygu]

Llyfryddiaeth [golygu]

  • Trebor Evans Teulu Madryn' (Pwllheli: Clwb y Bont, 1993)