Lili'r Wyddfa
Oddi ar Wicipedia
| Lili'r Wyddfa | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Monocotau |
| Urdd: | Liliales |
| Teulu: | Liliaceae |
| Genws: | Lloydia |
| Rhywogaeth: | L. serotina |
| Enw deuenwol | |
| Lloydia serotina (L.) Rchb. |
|
Planhigyn Arctig-Alpaidd yw Lili'r Wyddfa neu Brwynddail y Mynydd (Lloydia serotina). Y rhywogaeth yma yw'r unig aelod o'r genws Lloydia sy'n byw tu allan i ganolbarth Asia. Mae Lili'r Wyddfa yn nodweddiadol o diroedd mynyddig. Yng Ngogledd America fe'i ceir o Alaska hyd New Mexico, ac yn Ewrop yn yr Alpau a Mynyddoedd Carpathia. Yr unig le y mae'n tyfu ym Mhrydain yw ychydig o safleoedd yng ngogledd Eryri; er enghraifft Cwm Idwal.
Mae'n blanhigyn anodd ei adnabod pan nad yw'n blodeuo, gan fod y dail yn debyg iawn i laswellt neu frwyn. Daw'n llawer mwy amlwg pan ymddengys y blodau gwynion, o fis Mehefin ymlaen. Ystyrir y gallai cynhesu byd-eang beryglu parhad y rhywogaeth yn Eryri. Daw'r enw Lloydia o enw Edward Lhuyd.