Lecwydd
Ardal yng ngorllewin Caerdydd ydy Lecwydd (Saesneg: Leckwith). Mae'n gartref i faes chwarae cartref C.P.D. Dinas Caerdydd, clwb rygbi Gleision Caerdydd, Ysgol Uwchradd Fitzalan ac Ysgol Gymraeg Pwll Coch.
Mae'r enw'n tarddu o'r enw personol Helygwydd a Lle, gan olygu "Lle Helygwydd". Ni wyddwn pwy oedd Helygwydd, ond credir iddo fod yn rhyfelwr neu'n sant Cymreig.
Trafnidiaeth [golygu]
Caiff Lecwydd ei gyrchu'n uniongyrchol o'r A4232 sy'n cysylltu Bae Caerdydd a Croes Cwrlwys, a chyffordd 33 yr M4. Lleolir prif depo Bws Caerdydd yn yr ardal, a nhw sy'n rhedeg gwasanaethau Lecwydd 12/13 i'r dwyrain o ganol y ddinas, a gwasanaethau cylch 1/2.
Gwasanaethir yr ardal gan orsaf rheilffordd Parc Ninian, gyda threnau'n rhedeg o orsaf Radur drwy orsaf Tyllgoed ac i'r de i Gaerdydd Canolog.