Cyngor Caerdydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Y cyngor sy'n rheoli awdurdod Caerdydd ydy Cyngor Dinas a Sir Caerdydd neu Cyngor Caerdydd fel ei adnabyddir yn gyffredin. Mae 75 cynghorwr yn cynyrchioli 29 o wardiau etholaethol Caerdydd.[1] Nid yw'r ffurff Cyngor Sir Caerdydd yn ffurf ffurfiol o'r enw, ond mae'n ymddangos ar gam rwan ac yn y man.

Wedi etholiad 2004, a newidiodd y cyngor o fod odan reolaeth Llafur i fod heb unrhyw blaid mewn rheolaeth cyffredin. ffurfiodd y Democratiaid Rhyddfrydol weinyddiaeth lleiafrif odan arweiniaeth y cynghorwr Rodney Berman. Y Democratiaid oedd y brf blaid wedi etholiad lleol 2008, ac maent yn bresennol yn ffurfio gweinyddiaeth ar y cyd gyda Phlaid Cymru.

Cyfansoddiad gwleidyddol[golygu]

Cynhelir etholiadau pob pedair nmlynedd. Cynhaliwyd yr etholiad diwethaf ar 1 Mai 2008.[2]

Blwyddyn Dem. Rhydd. Ceidwad. Llafur Plaid C. Annibynnol
2008 35 17 13 7 3
2004 33 12 27 3 0
1999 18 5 50 1 1
1995 9 1 61 1 0

Bu'r Blaid Lafur mewn rholaeth rhwng 1995 a 2004. Rhedodd y Democrataid Rhyddfrydol weinyddiaeth lleiafrif rhwng 2004 a2008.

Yn dilyn etholiadau lleol 2008 yng Nghaerdydd, doedd dal dim plaid gyda mwyafrif. Enillodd y Democratiaid dri cynghorwr, gan ddod a'u cyfanswm i 35, a ffurfiont weinyddiaeth ar y cyd gyda Plaid Cymru, gyda Rodney Berman yn arweinydd y cyngor. Cymerodd y Blaid Geidwadol gan ddisodli Llafur fel y blaid wrthwynebol swyddogol. Dioddefodd Llafur golled mawr o 14 cynghorwr, gan ddod a'u cyfanswm i lawr i 13. Enillodd Plaid Cymru bedwar cynghorwr gan ddod a'u cyfanswm hwy i saith. Etholwyd tri cynghorwr annibynnol; dau gyn-aelod o'r Blaid Geidwadol a adawodd y blaid yn 2006 ac un arall.

Hanes[golygu]

Dinas Caerdydd yw tref sirol Morgannwg, er nad yw'r swyddogaeth hyn fawr o bwys bellach, ers i'r awdurdodau unedig yng Nghymru gael eu ail-drefnu, ym 1974 cafodd Caerdydd a Bro Morgannwg eu uno fel De Morgannwg. Daeth Caerdydd yn awdurdod unedig wedi ail-drefnu unwaith eto ym 1996.

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]