Sgwrs:Lecwydd

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

A oes unrhyw wrthwynebiad i'r syniad mai Llechwedd ydy'r enw cywir am Leckwith? Mae'n ddigon hawdd dychmygu bod Ll wedi troi i L a ch i ck a dd i th yn ôl yr arferiad cyffredin gan rai a oedd yn defnyddio'r Saesneg yn unig. ApGlyndwr (sgwrs) 12:00, 17 Rhagfyr 2014 (UTC)[ateb]

Er mwyn derbyn y cynnig hwn byddai angen gallu cyfeirio at ffynhonnell ddibynadwy, a hyd y gwelaf nid oes ffynhonnell felly ar gael. Felly—am y tro o leiaf—dylid cadw at esboniad G. O. Pierce. Ond mewn gwirionedd anodd gweld sut y gallai Llechwedd droi yn Leckwith. Does dim problem o ran ll>l a dd>th. Mae ch>ck yn fwy problemus (er nad yn amhosibl). Ond mae'r llafariad olaf yn broblem: onid Leckweth fyddai'r ffurf pe byddai wedi ei benthyg o Llechwedd? Mae hefyd angen esbonio'r ffurf Gymraeg Lecwydd. Os am ddadlau bod y ffurf honno'n deillio o'r Saesneg Leckwith, onid Lecwith a ddisgwylid? Hyd y gwelaf, felly, nid yw'r esboniad llechwedd yn tycio. Mae (He)lygwydd, ar y llaw arall, yn esbonio'r ffurf Gymraeg gyfoes (Lecwydd) a'r un Saesneg (Leckwith). Troellwr (sgwrs) 17:49, 10 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]
Os mai esboniad G. O. Pierce ydy'r unig ffynhonnell sy'n cefnogi'r defnydd o Lecwydd mae'r ddadl yn wan iawn. A oes ffynonellau yn dyddio'n ôl i amseroedd Fictoraidd a chynt yn dangos yr enw Lecwydd fel enw ar yr ardal dan sylw? Mae'r honiad mai sant oedd Helygwydd heb unrhyw brawf o gysylltiad person o'r fath â'r ardal yn amheus dros ben. Ar y llaw arall, mae'r enw Llechwedd neu Llechwydd sy'n ymddangos mewn nifer o gyhoeddiadau dros ganrif yn ôl yn disgrifio tirwedd yr ardal yn gywir. Mae'r weithred o ddileu'r enghraifft a osodais yn yr erthygl yn dangos agwedd negyddol. A oes posib cyfaddawdu yma? ApGlyndwr (sgwrs) 10:53, 11 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]
Diolch am y sylw. Rwy'n credu bod y newidiadau'n gyson â'r cyfeirlyfrau/ffynonellau safonol yn y maes, sef y maen prawf ar gyfer erthygl Wicipeda. Ers cyhoeddi esboniad G. P. Pierce yn 1968 ni wn am unrhyw un sydd wedi dadlau yn ei erbyn. Rwyf wedi ychwanegu cyfeiriad at waith diweddar Hywel Wyn Owen a Richard Morgan sydd hefyd yn cytuno ag ef. Mae G. O. Pierce ac Owen a Morgan yn cynnwys enghreifftiau o'r enw sydd yn mynd yn ôl i'r 12g. Mae'n wir y gallai llechwedd ddisgrifio'r ardal (neu o leiaf y rhan lle'r oedd yr eglwys). Mae'n debyg mai dyna pam y newidiwyd yr enw yn ddiweddarach (gan rai, yn ymwybodol neu beidio) o Lecwydd i Llechwedd. Dylwn nodi hefyd fod yr enghraifft o waith Owen Jones yn dal yn yr erthygl (mewn troednodyn). Ychwanegais ati enghraifft gynharach o'r ffurfiau Llechwydd a Llechwedd o waith Samuel Lewis, gyda dolen i gopi digidol. Gobeithio felly nad yw hynny'n ymddangos yn negyddol. Byddwn yn sicr yn fodlon cyfaddawdu pe bai ffynhonell ddibynadwy yn dadlau bod Lecwydd yn ffurf ddiweddar sy'n deillio o'r ffurf gynharach Llechwedd. Ond hyd y gwn nid oes ffynhonell o'r fath, ac felly ar hyn o bryd nid oes modd cynnwys yr esboniad hwnnw fel un a dderbynnir. Troellwr (sgwrs) 17:35, 11 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]
Diolch eto am gymryd diddordeb. Rwy'n parhau i ofyn am ffynhonnell sy'n defnyddio Lecwydd fel enw ar yr ardal cyn dyfodiad y ganrif ddiwethaf. Nid yw ymchwil ar enw personol, sef Helygwydd, yn ddilys pan yw'r enw ar bentref neu ardal dan sylw, yn enwedig pan nad oes cysylltiad rhwng yr enw personol a'r ardal. Byddaf yn ddiolchgar pe byddai’r enghraifft o waith Owen Jones yn cael ei ail-osod yng nghynnwys yr erthygl gan mai cyhoeddiad yn y Gymraeg oedd y ffynhonnell yma. Mae’n ddrwg gennyf nad oes gennyf yr adnoddau i greu dolen ddigidol debyg i’r un a ychwanegwyd yn yr enghraifft Saesneg o waith Samuel Lewis. Gobeithiaf weld erthygl gynhwysfawr sy’n adlewyrchu gwir ddatblygiad yr enw sydd eisoes wedi’i dderbyn yn swyddogol fel Lecwydd. ApGlyndwr (sgwrs) 22:28, 11 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]
Diolch am y sylwadau. Fel y nodais uchod, mae Pierce ac Owen a Morgan yn nodi enghreifftiau o'r ffurf Lecwydd sydd cyn gynhared â'r 12g (mae'r sillafiad ac iaith y dogfennau'n amrywio, wrth gwrs). Ond mewn cyd-destun penodol Gymraeg dylid nodi hyn o lawysgrif Peniarth 140 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (pen t. 898). Mae'r enghraifft honno yn dyddio o 1573. O tua'r un cyfnod ceir cywydd gan Dafydd Benfras â'r cwpled: 'Thomas ddi-gleck, o Leckwydd, / yn rhoi, Ymhorgan, yw rhwydd'. Mae'r gynghanedd a'r odl yn cadarnhau'r ffurf 'Lecwydd', o'i sillafu yn y dull modern. Felly mae'n glir fod y ffurf Lecwydd yn cael ei defnyddio yn y Gymraeg ers yr 16g o leiaf. O ran dyfyniad Owen Jones, rhaid cyfaddef na fyddwn yn ffafrio ei gynnwys yn y testun. O'i gynnwys, byddai angen wedyn gynnwys yr enghreifftiau Cymraeg uchod o Lecwydd, enghreifftiau eraill o'r 19g a'r 20g, ac enghreifftiau o'r ffurf mewn dogfennau Lladin a Saesneg, ac felly ymlaen er mwyn rhoi ystod deg o ffurfiau. Byddai'n creu erthygl anghytbwys yn fy marn i gyda gormod o fanylion ar un pwynt yn unig. Gan hynny rwy'n ffafrio cadw'r adran yn gryno a chyfeirio at weithiau safonol sydd yn cynnwys y gwahanol ffurfiau.
Diolch eto. Mae’n amlwg bod nifer o wahanol enghreifftiau i’w crybwyll ynglŷn â’r enw a arferir heddiw- sef Lecwydd. O ran diddordeb, hoffwn ychwanegu fy mod hefyd yn ystyried yr enw Llechwydd o ddifri, heblaw am Llechwedd. Mae’n ddigon posib mai o’r geiriau llech a gwŷdd y daw’r enw -h.y. yr hen ystyr o'r gair llech ar gyfer lloches neu guddfan. Felly'r ystyr fyddai coedwig sy’n gorchuddio adar neu anifeiliaid, yn enwedig pan ystyrir yr hen arferion o hela. O’r gorau, byddaf dan lach beirniadaeth eto am ddamcaniaethu heb ffynonellau. Ond ai damcaniaeth sy’n rhoi’r gair cyfoes Lecwydd ai nid felly? O leiaf, mae gennyf sawl ffynhonnell sy’n barod wedi’u hargymell ac sy’n perthyn yn uniongyrchol i’r ardal dan sylw yn yr oes Fictoraidd. O ran diddordeb pellach, ac ar yr un trywydd, mae fferm o’r enw Gwern Cynyddion yn ardal Ardudwy. Yn ddiweddar, awgrymwyd yr enw Gwern Caernyddion gan rywun a feddyliodd mai hynny fyddai’n gywirach, yn enwedig gan fod hen weddillion archaeolegol gerllaw. Ond mae cynyddion yn air sy’n ymwneud â hela, ac unwaith eto, mae’r disgrifiad yn adlewyrchu’r arferion yn yr Oesoedd Tywyll a Chanol. ApGlyndwr (sgwrs) 14:17, 12 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]
Cofier bod seinyddiaeth y Gymraeg heddiw ac ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf yn defnyddio’r llythrennau ll,ch a dd. Nid oedd cysondeb ysgrifenedig o’r fath mewn Cymraeg cynnar, ac wrth gwrs, mae’r k wedi hen ddiflannu. Felly, mae cymryd gair o hen ysgrif i’w ail ddefnyddio yn yr iaith gyfoes yn eithaf heriol. Cefais drafferth wrth wneud hynny efo’r gair cader. Mae’n drist bod nifer o gyhoeddiadau o ddiwedd y ganrif ddiwethaf yn cael eu wfftio fel ffynonellau gan rai Wicipedwyr. ApGlyndwr (sgwrs) 11:20, 13 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]
Diolch. Efallai ein bod ychydig yn anghyson o ran yr hyn a olygwn wrth 'ffynhonnell'. Mae llu o ffynonellau (cynradd) ar gael sydd yn cynnwys amrywiol ffurfiau ar yr enw. Y ffurf Lecwydd (neu fân amrywiadau ar hynny) sydd yn y ffynonellau Cymraeg cynharaf fel y rhai o'r 16g a nodais uchod. Y ffurf Lecwydd hefyd yw'r un a ddefnyddir heddiw yn y Gymraeg. Yn y canol (e.e. yn y 19g) mae ffynonellau (cynradd) sydd yn cynnwys y ffurfiau Llechwydd a Llechwedd, ac mae'r erthygl fel y mae yn cydnabod hynny. (Fe ychwanegais innau enghraifft gynharach at yr hyn a oedd yno'n wreiddiol.) Yn fy marn i, mae Llechwydd a Llechwedd yn ffurfiau diweddarach na Lecwydd, ac felly nid ydynt yn esbonio tarddiad y ffurf honno. Ond nid yw fy marn i nac yma nac acw mewn gwirionedd. Yn hytrach, mae angen i Wicipedia adlewyrchu'r ffynonellau (eilaidd) safonol yn y maes, sef, yn yr achos hwn, astudiaethau arbenigol ar enwau lleoedd. Mae'r rheini yn gyson o blaid y ffurf Lecwydd (a'i tharddiad o Helygwydd). Felly mae modd parchu ffynonellau (cynradd) y 19g (drwy gyfeirio atynt yn yr erthygl), gan nodi ar yr un pryd bod y gweithiau safonol yn y maes yn dadlau eu bod yn ffurfiau diweddarach, ac mai Lecwydd yw'r ffurf safonol (a hŷn, yn yr achos hwn). O ran Gwern Cynyddion, wele enghraifft o 1904: Gwalia. Mae llecyn o'r enw Gwern Cynydd yn sir Faesyfed. Troellwr (sgwrs) 16:25, 13 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]