Kalle Lasn
Gwneuthurwr ffilmiau, awdur, golygydd cylchgrawn ac ymgyrchydd Canadaidd yw Kalle Lasn (ynganiad Estoneg: [ˈkɑlˑɛ ˈlɑsn̥]) (ganwyd 24 Mawrth 1942).
Bywgraffiad[golygu]
Yn agos at ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, ffodd teulu Lasn o Estonia a threulio amser mewn gwersyll ffoaduriaid Almaenig. Symudodd gyda'i deulu i Awstralia pan oedd o'n saith mlwydd oed, lle magwyd a mynychodd yr ysgol yng Nghanberra. Arhosodd yno tan y 1960au; yna sefydlodd gwmni ymchwil marchnata yn Tokyo. Yn 1970, symudodd i Vancouver, Canada. Treuliodd ugain mlwydd yn cynhyrchu rhaglenni dogfen ar gyfer PBS a National Film Board of Canada.
Lasn yw cyd-sefydlydd y cylchgrawn Adbusters, a'r fam-gwmni sef Adbusters Media Foundation. Mae o hefyd yn awdur y llyfrau Culture Jam a Design Anarchy.
Llyfrau a ffilmiau[golygu]
Mae llyfr cyntaf Lasn, Culture Jam, yn galw am "feddwl amgylcheddol" ac yn beirniadu cyfalafiaeth.