Jorge Luis Borges

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Jorge Luis Borges

Roedd Jorge Luis Borges (neu Jose Luis Borges) (14 Awst 1899 - 14 Mehefin, 1986) yn llenor o Archentwr. Cafodd ei eni yn Buenos Aires, prifddinas Yr Ariannin.

Mae Borges yn adnabyddus yn rhyngwladol am ei storïau byrion yn bennaf, sydd wedi'u cyfieithu o'r Sbaeneg wreiddiol i nifer o ieithoedd. Roedd hefyd yn fardd o fri ac yn feirniad llenyddol craff. Nodweddir gwaith Borges gan ei soffistigeiddrwydd, ei eironi a'r dirgelwch sy'n treiddio trwy ei waith. Mae ei gyfrolau yn cynnwys Ficciónes ("Chwedlau", 1944, 1946), El Aleph (1949) ac El Hacedor ("Teigrod Breuddwyd", 1960).

Cysylltiadau allanol[golygu]

Nodyn:Eginyn llenor archentaidd