H. G. Wells

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
H. G. Wells

Nofelydd yn yr iaith Saesneg oedd Herbert George Wells (21 Medi 1866 - 13 Awst 1946). Roedd yn fwy adnabyddus o dan yr enw H. G. Wells a chaiff ei ystyried fel un o'r llenorion gwyddonias cyntaf. Yn aml, cyfeirir at Wells a Jules Verne fel "Tadau Gwyddonias".

Roedd Wells yn heddychwr ac yn sosialydd blaengar, a daeth ei weithiau diweddarach yn fwyfwy gwleidyddol. Roedd ei nofelau o ganol y cyfnod yr ysgrifennai (1900-1920) yn fwy realistig; ymdrinient â bywydau'r bobl ar waelod y dosbarth canol (The History of Mr Polly) a'r 'New Woman' a'r Suffragettes (Ann Veronica). Roedd yn ysgrifennwr toreithiog mewn nifer o ffurfiau ysgrifennu gwahanol, gan gynnwys nofelau cyfoes, hanesyddol a sylwebaeth gymdeithasol.

[golygu] Llyfryddiaeth dethol

[golygu] Gweler hefyd

Flag of England.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato