Edgar Allan Poe

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llun daguerrotype o Poe a dynwyd yn 1848, flwyddyn cyn ei farwolaeth

Roedd Edgar Allan Poe (19 Ionawr 18097 Hydref 1849) yn llenor o Americanwr a aned yn Boston, Massachusetts, yn Unol Daleithiau America. Mae'n enwog fel awdur y gyfrol ddylanwadol Tales of Mystery and Imagination.

Ei fywyd helbulus[golygu]

Mae'r hyn a wyddom am fywyd Poe yn llawn o bennodau ansicr ac yn frith â straeon apocryffaidd. Yn ôl rhai oedd yn ei adnabod roedd yn ddyn sur a maleisus, ond yn ôl pobl eraill roedd yn ddyn mwyn a chyfeillgar, ond ei fod yn hynod "preifat" ac yn cael pyliau drwg o felancoli (nodwedd amlwg yn ei waith).

Amddifadwyd Poe o'i fam a'i dad yn dair blwydd oed a chafodd ei fabwysiadu gan John Allan (1780-1834), marsiandïwr cefnog di-blant o Richmond, Virginia. O 1815 hyd at 1820 bu'n byw yn Lloegr efo'i lys-deulu newydd. Ar ôl dychwelyd i'r Unol Daleithiau aeth i Brifysgol Virginia, ond aeth mewn dyled oherwydd ei gamblo a bu rhaid iddo symud i weithio i'w lysdad yn ei swyddfa. Rhedodd i ffwrdd i Foston a dechreuodd geisio ennill ei fywoliaeth trwy lenyddu. Ar ôl cyfnod helbulus yn y fyddin ac Academi Filwrol West Point treuliodd cyfnod ym Maltimore a Richmond, fel is-olygydd cylchgrawn llenyddol, a bu'n byw efo'i fodryb, Mrs Clemm. Yn 1836 priododd ei gyfnither Virginia. Yn 1838 symudodd i Philadelphia lle cyhoeddodd Tales of the Grotesque. Symudodd eto yn 1844, i Efrog Newydd; cyhoeddodd ei gerdd enwog "The Raven" a chafodd dderbyniad cynnes gan y beiriniaid. O'r diwedd roedd pethau'n mynd yn iawn iddo, ond yn 1947 bu farw ei wraig. Dim ond ambell gerdd a phwt o ryddiaith a gyhoeddodd wedyn. ond maent yn cynnwys "The Bells", un o'i gerddi gorau. Ceisiodd ladd ei hun yn Nhachwedd, 1848, ac aeth ei gyflwr o ddrwg i waith. Yn Hydref 1849 fe'i daganfuwyd mewn cyflwr gwael iawn yn Baltimore, wedi mynd yno i setlo materion busnes, a bu farw buan ar ôl hynny yn yr ysbyty lleol yn ddeugain oed.

Ei waith[golygu]

Ysgrifenodd Poe nifer fawr o gerddi ac erthyglau, yn bennaf ar gyfer cylchgronau llenyddol ei ddydd. Ychydig o werth llenyddol sydd i'w feiriniadaeth lenyddol erbyn heddiw av mae swmp ei gerddi yn anffasiynol heddiw, ond yn eu plith ceir rhai sydd wedi ennill eu plwyf fel clasuron, er enghraifft "The Bells", "Isfrahel" a'r dra-Othig "The Raven".

Ond fe'i cofir ayn bennaf am ei straeon byrion. Mae nifer o'i straeon yn straeon arswyd neu iasoer gyda'r elfen Gothig yn amlwg iawn; y goreuon efallai yw "The Fall of the House of Usher", "The Pit and the Pendulum", "The Black Cat", "The Masque of the Red Death" a "The Tell-Tale Heart".

Ysgrifenodd yn ogystal sawl stori dditectif, yn eu plith "The Murders in the Rue Morgue" a ystyrir yn rhagflaenydd i'r stori dditectif fodern.

Ymhlith edmygwyr mwyaf Poe oedd y bardd Ffrangeg Charles Baudelaire, a gyhoeddodd gyfieithiad o "Tales of Mystery and Imagination" dan yr enw Histoires extraordinaires (1848-1865). Cafodd ddylanwad mawr yn Ffrainc.

Ffilm[golygu]

The Pit and the Pendulum (Roger Corman, 1961)

Vincent Price yw'r actor a gysylltir yn bennaf â gwaith Poe, yn arbennig yn ei ffilmiau i Roger Corman yn y 1960au. Dyma ddetholiad o'r ffilmiau niferus sy'n seiliedig ar waith Poe neu sy'n ymwneud â'r dyn ei hun:

  • Edgar Allan Poe (1909)
  • The Gold Bug (1910) - Ffrainc
  • The Pit and the Pendulum (1910) - Yr Eidal
  • The Bells (1912)
  • The Avenging Conscience (1914)
  • The Raven' (1915)
  • The Tell Tale Heart (1928)
  • The Fall of the House of Usher (1928)
  • The Murders in the Rue Morgue (1932)
  • The Loves of Edgar Allan Poe (1942)
  • Tell-Tale Heart (1953)
  • The Phantom of the RueMorgue (1953)
  • House of Usher (1960)
  • The Tell-Tale Heart (1960)
  • The Pit and the Pendulum (1961)
  • The Premature Burial (1962)
  • Tales of Terror (1962)
  • The Raven (1963)
  • The Masque of the Red Death (1964)
  • Danza macabra (1964)
  • The Tomb of Ligeia (1965)
  • The Murders in the Rue Morgue (1971)
  • The Spectre of Edgar Allan Poe (1974)
  • The Raven...Nevermore (1999)
  • Mystery Of The Necronomicon (1999)
  • The Raven (2003)
  • The Death of Poe (2005)
  • Poe (2006)

Llyfryddiaeth[golygu]

Mae Tales of Mystery and Imagination wedi cael ei argraffu nifer fawr o weithiau a'u cyfieithu i sawl iaith (ond nid yn Gymraeg, hyd yn hyn). Un o'r argraffiad mwyaf cyfleus a safonol o'i gerddi ac erthyglau yw'r gyfrol yn Everyman's Library.