Johannes Vermeer
Johannes Vermeer | |
---|---|
Ganwyd | Johannes Vermeer Hydref 1632 Delft |
Bedyddiwyd | 31 Hydref 1632 |
Bu farw | 15 Rhagfyr 1675 Delft |
Man preswyl | Delft |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth yr Iseldiroedd |
Galwedigaeth | arlunydd, casglwr celf |
Adnabyddus am | Diana and her Nymphs, The Geographer, The Procuress, The Milkmaid, Christ in the House of Martha and Mary, The Astronomer, A Girl Asleep, Girl with a Pearl Earring, View of Delft |
Arddull | peintio genre, portread |
Prif ddylanwad | Carel Fabritius, Gabriel Metsu, Dirck van Baburen, Leonaert Bramer |
Mudiad | peintio Oes Aur yr Iseldiroedd, paentiadau Baróc |
Tad | Reijnier Janszoon Vermeer |
Mam | Digna Baltus |
Priod | Catharina Bolenes |
llofnod | |
Arlunydd o'r Iseldiroedd oedd Johannes Vermeer neu Jan Vermeer (31 Hydref 1632 (bedyddiwyd) – 15 Rhagfyr 1675 (claddwyd)), a baentiodd yn yr arddull Baróc. Roedd yn arbenigo mewn golygfeydd o ddydd i ddydd o fewn y cartref. Treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd yn Delft. Yn ystod ei fywyd, roedd Vermeer yn beintiwr weddol llwyddiannus o fewn ei dalaith. Nid oedd erioed yn arbennig o gyfoethog, efallai gan na chynhyrchodd nifer fawr o baentiadau. Gadawodd ei wraig a'i un ar ddeg o blant mewn dyled pan fu farw.
Bu bron iddo gael ei anghofio am ddau gan mlynedd hyd i feirniad celf, Thoré Bürger, gyhoeddi traethawd yn 1866, yn priodoli 66 iddo (dim ond 35 o baentiadau sydd wedi eu priodoli i Vermeer yn gadarn). Ers hynny, mae enw Vermeer wedi dod i'r amlwg, a cydnabyddir ef fel un o beintwyr gorau'r Oes Aur Iseldiraidd. Mae'n enwog yn arbennig am ei driniaeth meistrolgar o olau yn ei waith.
Gweithiau gan Johannes Vermeer
[golygu | golygu cod]Heddiw priodolir 35 o baentiadau i Vermeer yn gadarn. Dyma'r rhestr:
- Crist yn Nhy Mair a Martha (1654–5) - Olew ar gynfas, 160 x 142 cm, Oriel Genedlaethol yr Alban, Caeredin
- Diana a'i Chymdeithion (1655–6) - Olew ar gynfas, 98.5 x 105 cm, Mauritshuis, The Hague
- Y Buteinfeistres (1656) - Olew ar gynfas, 143 x 130 cm, Gemäldegalerie Alte Meister, Dresden
- Merch yn Darllen Llythyr wrth Ffenestr Agored (1657) - Olew ar gynfas, 83 x 64.5 cm, Gemäldegalerie Alte Meister, Dresden
- Merch yn Cysgu (1657) - Amgueddfa Gelf y Metropolitan, Efrog Newydd
- Y Stryd Fechan (1657/8) - Rijksmuseum, Amsterdam
- Swyddog gyda Merch yn Chwerthin (tua 1657) - Olew ar gynfas, 50.5 x 46 cm, Frick Collection, Efrog Newydd
- Y Forwyn Laeth (tua 1658) - Olew ar gynfas, 45.5 x 41 cm, Rijksmuseum, Amsterdam
- Merch yn Yfed, a Bonheddwr (1658–60) - Olew ar gynfas, 39.4 x 44.5 cm,Gemäldegalerie, Berlin
- Merch gyda Gwydryn Gwin (tua 1659) - Olew ar gynfas, Herzog Anton-Ulrich-Museum, Braunschweig
- Golygfa o Delft (1659–60) - Olew ar gynfas, 98.5 x 117.5 cm, Mauritshuis, Den Haag
- Y Wers Gerddoriaeth wedi'i Thorri ar Draws (1660–1) - Olew ar gynfas, 39.4 x 44.5 cm, Frick Collection, Efrog Newydd
- Gwraig mewn Glas yn Darllen Llythyr (1663–4) - Olew ar gynfas, 46.6 x 39.1 cm, Rijksmuseum, Amsterdam
- Y Wers Gerddoriaeth - Olew ar gynfas, 73,3 x 64,5 cm, Casgliad Gelf Brenhinol, Llundain
- Gwraig gyda Liwt (tua 1663) - Olew ar gynfas, 51.4 x 45.7 cm, Amgueddfa Gelf y Metropolitan, Efrog Newydd
- Gwraig gyda Chadwyn o Berlau (1662–4) - Olew ar gynfas, 55 x 45 cm, Gemäldegalerie, Berlin
- Gwraig gyda Phiser Dŵr (1660–2) - Olew ar gynfas, 45,7 x 40,6 cm, Amgueddfa Gelf y Metropolitan, Efrog Newydd
- Merch yn Dal Clorian (1662–3)[1] - Olew ar gynfas, 42,5 x 38 cm, Oriel Gelf Genedlaethol, Washington
- Merch yn Ysgrifennu Llythyr (1665–6) - Olew ar gynfas, 45 x 40 cm, Oriel Gelf Genedlaethol, Washington
- Merch gyda Chlustdlws Perlog (tua 1665) - Olew ar gynfas, 46.5 x 40 cm, Mauritshuis, Den Haag
- Y Cyngerdd (1665–6) - Olew ar gynfas, 69 x 63 cm, stolen in March 1990 from the Amgueddfa Isabella Stewart Gardner, Boston[2]
- Portread o Ferch Ifanc (1666–7) - Olew ar gynfas, 44.5 x 40 cm, Amgueddfa Gelf y Metropolitan, Efrog Newydd
- The Allegory of Painting or The Art of Painting (1666/67) - Kunsthistorisches Museum, Wien
- Meistres a Morwyn (1667/8) - Frick Collection, Efrog Newydd
- Merch a Het Goch (1668) - Oriel Gelf Genedlaethol, Washington
- Y Seryddwr (1668) - Louvre, Paris
- Y Daearyddwr (1668/9) - Städelsches Kunstinstitut, Frankfurt am Main
- Y Wneuthurwraig Les (1669/70) - Louvre, Paris
- Y llythyr cariad (1669/70) - Rijksmuseum, Amsterdam
- Gwraig yn Ysgrifennu Llythyr gyda'i Morwyn (1670) - Olew ar gynfas, 71.1 x 58.4 cm, Oriel Genedlaethol Iwerddon, Dulyn
- Alegori o Ffydd (1671–4) - Amgueddfa Gelf y Metropolitan, Efrog Newydd
- Y Chwaraewr Gitâr (1672) - Rhodd Iveagh, Tŷ Kenwood, Llundain
- Merch yn Sefyll wrth ymyl Firdsinal (1673–5) - Oriel Genedlaethol, Llundain
- Merch yn Eistedd wrth Firdsinal (1673–5) - Oriel Genedlaethol, Llundain
Gweithiau o awduraeth ansicr
[golygu | golygu cod]- Santes Praxidis (tua 1655) - Olew ar ganfas, 102 x 83 cm, Casgliad Preifat
- Merch gyda Ffliwt (1665–70) - Olew ar banel, 20 x 17.8 cm, Oriel Genedlaethol Celf, Washington
- A Young Woman Seated at the Virginals (1670) - Wynn Las Vegas, Las Vegas
- Portread o Wraig (1655–60) -
Oriel
[golygu | golygu cod]-
1 Crist yn Nhy Mair a Martha (1654–5)
-
3 Y Buteinfeistres (1656)
-
4 Merch yn Darllen Llythyr wrth Ffenestr Agored (1657–9)
-
5 Merch yn Cysgu (1656–7)
-
6 Y Stryd Fechan (1657/8)
-
7 Swyddog gyda Merch yn Chwerthin (1657–9)
-
8 Y Forwyn Laeth (tua 1658)
-
9 Merch yn Yfed, a Bonheddwr (1658–61)
-
10 Merch gyda Gwydryn Gwin (1659–60)
-
11 Golygfa o Delft (1660–1)
-
12 Y Wers Gerddoriaeth wedi'i Thorri ar Draws (1660–1)
-
13 Gwraig mewn Glas yn Darllen Llythyr (ar ôl 1664)
-
14 Y Wers Gerddoriaeth (1662)
-
16 Gwraig gyda Chadwyn o Berlau (1664)
-
17 Gwraig gyda Phiser Dŵr (1662–3)
-
18 Merch yn Dal Clorian (1665)
-
20 Merch gyda Chlustdlws Perlog (1665)
-
21 Y Cyngerdd (1665–6)
-
22 Portread o Ferch Ifanc (1665–7)
-
23 The Allegory of Painting (1666–7)
-
24 Meistres a Morwyn (1667)
-
26 Y Seryddwr (1668)
-
27 Y Daearyddwr (1669)
-
28 Y Wneuthurwraig Les (1664)
-
29 Y Llythyr Cariad (1670)
-
30 Gwraig yn Ysgrifennu Llythyr gyda'i Morwyn (1670)
-
32 Y Chwaraewr Gitâr (1669–72)
-
33 Merch yn Sefyll wrth ymyl Firdsinal (1670–3)
-
34 Merch yn Eistedd wrth Firdsinal (1672)
-
Merch gyda Ffliwt (gwaith o awduraeth ansicr, 1665–70)
Gweithiau ffug
[golygu | golygu cod]Peintiwr o'r Iseldiroedd oedd Han van Meegeren, a weithiodd yn y traddodiad clasurol. Penderfynodd baentio gwaith Vermeer ffug i brofi i feirniaid ei fod yn beintiwr da. Yn ddiweddarach, paentiodd rhagor o waith ffug Vermeer ac arlunwyr eraill er mwyn ennill arian. Fe dwyllodd Van Meegeren y sefydliad celf. Ni chymerwyd ef o ddifri tan iddo ddangos ei sgiliau o flaen yr heddlu. Fe ddychrynodd ei ddawn am greu gwaith celf ffug y byd celf, gan achosi i weithiau a'u priodolwyd i Vermeer gael eu hasesu er mwyn ystyried eu dilysrwydd. Wedi datguddiad Van Meegeren yn 1945, fe ddechreuodd nifer o orielau hunan feirniadu a diflannodd nifer o hen feistri o'u waliau. Rhoddir enghreifftiau ym mywgraffiad Van Meegeren, A New Vermeer.
Vermeer mewn gweithiau eraill
[golygu | golygu cod]- Mae View of Delft Vermeer yn ymddangos mewn rhan bwysig o nofel gan Marcel Proust The Captive.
- Mae'r llyfr Girl with a Pearl Earring a'r ffilm gyda'r un enw, wedi eu henwi ar ôl y paentiad; maent yn cyflwyno adroddiad ffuglen o greadigaeth y paentiad a pherthynas Vermeer gyda'r fodel.
- Mae'r llyfr Girl in Hyacinth Blue wedi ei seilio ar baentiad ffuglennol gan Vermeer, a troswyd yn ffilm ar gyfer y teledu yn 2003, Brush with Fate.
- Ysbrydolwyd gwirodlyn Vermeer Dutch Chocolate Cream Liqueur gan Vermeer, ac enwyd ar ei ôl, mae ei lofnod wedi ei boglynnu ar y fotel, ac mae'r logo yn cynnwys y paentiad Girl with a Pearl Earring.
- Redd gan Salvador Dalí lawer o edmygedd o Vermeer, a phaentiodd fersiwn ei hun o The Lacemaker. Fe baentiodd Dali The Ghost of Vermeer of Delft Which Can Be Used As a Table yn 1934.
- Mae nofel blant 2003, Chasing Vermeer, gan Blue Balliett, yn disgrifio lladrata A Lady Writing, mae dilysrwydd paentiadau Vermeer yn thema canolig (hefyd yn y llyfr The Wright 3 sy'n dilyn).
- Seiliodd y cyfansoddwr Iseldiraidd, Louis Andriessen, ei opera Writing to Vermeer (1997-98, libretto gan Peter Greenaway), ar fywyd cartref Vermeer.
- Mae ffilm gan Peter Greenaway, A Zed & Two Noughts (1985), yn cynnwys llinell plot sy'n dilyn lawfeddyg orthopedic, Van Meegeren, sy'n ail-greu gosodiad paentiadau Vermeer er mwyn peintio copïau ohonynt.
- Mae'r llyfr a'r ffilm Girl, Interrupted yn cyryd eu henwau o'r llun Girl Interrupted at her Music.
- Mae Jan Vermeer yn deitl cân ar albwm unigol Bob Walkenhorst, The Beginner (lyrics here Archifwyd 2008-03-21 yn y Peiriant Wayback, song #6). Walkenhorst is the guitarist and principal songwriter for The Rainmakers.
- All the Vermeers in New York, ffilm gan Jon Jost
Nodiadau a ffynonellau
[golygu | golygu cod]Ffynonellau penodol:
- ↑ In-depth discussion of "Woman Holding a Balance" Archifwyd 2017-05-07 yn y Peiriant Wayback o wefan Oriel Gelf Genedlaethol
- ↑ Stolen, rhaglen ddogfen am lladrad Y Cyngerdd, o wefan PBS
Ffynonellau Cyffredin:
- Libby Sheldon and Nicola Costaros, "Johannes Vermeer’s Young woman seated at a virginal", The Burlington Magazine, Chwefror 2006, rhifyn 1235, pennod CXLVIII.
- Nobert Schneider, Vermeer (Köln: Benedikt Taschen Verlag, 1993)
- J. Wadum, "Contours of Vermeer", Vermeer Studies. Studies in the History of Art, 55. Center for Advanced Study in the Visual Arts, Symposium Papers XXXIII, gol. I. Gaskel a M. Jonker (Washington/New Haven, 1998), tud. 201–23.
- Encyclopædia Britannica Online Archifwyd 2007-12-21 yn y Peiriant Wayback "Vermeer, Johannes" (2007).
- Frederik H. Kreuger, A New Vermeer, Life and Work of Han van Meegeren (Rijswijk: Quantes, 2007)
- Arthur K. Wheelock, Jr., Jan Vermeer (London: Thames & Hudson, 1981,1988).
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Iseldireg) Vermeercentrum Archifwyd 2009-03-07 yn y Peiriant Wayback, Guild of Saint Luke, Delft. (Mae wedi ail-agor ers yr erthygl hon)
- (Saesneg) Essential Vermeer
- (Saesneg) Virtual Vermeer Archifwyd 2011-07-17 yn y Peiriant Wayback