Johannes Vermeer
Arlunydd o'r Iseldiroedd oedd Johannes Vermeer neu Jan Vermeer (bedyddwyd 31 Hydref 1632, bu farw 15 Rhagfyr 1675), a baentiodd yn yr arddull Baróc. Roedd yn arbenigo mewn golygfeydd o ddydd i ddydd o fewn y cartref. Treuliodd rhanfwyaf o'i fywyd yn Delft. Yn ystod ei fywyd, roedd Vermeer yn baentwr weddol llwyddianus o fewn ei dalaith. Nid oedd erioed yn arbennig o gyfoethog, efallai gan na gynhyrchodd nifer fawr o baentiadau, gadawodd ei wraig a'i unarddeg o blant mewn dyled pan fu farw.
Bu bron iddo gael ei anghofio am ddau gan mlynedd hyd i feirniadwr celf, Thoré Bürger, gyhoeddi traethawd yn 1866, yn priodoli 66 iddo (dim ond 35 o baentiadau sydd wedi eu prodoli i Vermeer yn gadarn). Ers hynnu, mae enw Vermeer wedi dod i'r amlwg, a cydnabyddir ef fel un o baentwyr gorau'r Oes Aur Iseldiraidd, mae'n enwog yn arbennig am ei driniaeth meistriol o olau yn ei waith.
Heddiw prodolir 35 o baentiadau i Vermeer yn gadarn. Dyma'r rhestr:
- Crist yn Nhy Mair a Martha (1654-1655) - Olew ar gynfas, 160 x 142 cm, Oriel Genedlaethol yr Alban, Caeredin
- Diana a'i chymdeithion (1655-1656) - Olew ar gynfas, 98.5 x 105 cm, Mauritshuis, The Hague
- The Procuress (1656) - Olew ar gynfas, 143 x 130 cm, Gemäldegalerie Alte Meister, Dresden
- Merch yn darllen llythyr wrth ffenestr agored (1657) - Olew ar gynfas, 83 x 64.5 cm, Gemäldegalerie Alte Meister, Dresden
- Merch yn cysgu (1657) - Amgueddfa Gelf y Metropolitan, Efrog Newydd
- Y stryd fechan (1657/58) - Rijksmuseum, Amsterdam
- Swyddog gyda merch yn chwerthin (tua 1657) - Olew ar gynfas, 50.5 x 46 cm, Frick Collection, Efrog Newydd
- Y Forwyn Laeth (tua 1658) - Olew ar gynfas, 45.5 x 41 cm, Rijksmuseum, Amsterdam
- Merch yn yfed, a Bonheddwr (1658-1660) - Olew ar gynfas, 39.4 x 44.5 cm,Gemäldegalerie, Berlin
- Merch gyda gwydryn gwin (tua 1659) - Olew ar gynfas, Herzog Anton-Ulrich-Museum, Braunschweig
- Golygfa o Delft (1659-1660) - Olew ar gynfas, 98.5 x 117.5 cm, Mauritshuis, Den Haag
- Girl Interrupted at her Music (1660-1661) - Olew ar gynfas, 39.4 x 44.5 cm, Frick Collection, Efrog Newydd
- Gwraig mewn glas yn darllen llythyr (1663-1664) - Olew ar gynfas, 46.6 x 39.1 cm, Rijksmuseum, Amsterdam
- Y wers gerddoriaeth or A Lady at the Virginals with a Gentleman (1662/5) - Olew ar gynfas, 73,3 x 64,5 cm, Casgliad Gelf Brenhinol, Llundain
- Woman with a Lute near a Window (tua 1663) - Olew ar gynfas, 51.4 x 45.7 cm, Amgueddfa Gelf y Metropolitan, Efrog Newydd
- Woman with a Pearl Necklace (1662-1664) - Olew ar gynfas, 55 x 45 cm, Gemäldegalerie, Berlin
- Woman with a Water Jug (1660-1662) - Olew ar gynfas, 45,7 x 40,6 cm, Amgueddfa Gelf y Metropolitan, Efrog Newydd
- Merch yn dal clorian (1662-1663) - Olew ar gynfas, 42,5 x 38 cm, Oriel Gelf Genedlaethol, Washington
- Merch yn ysgrifennu llythyr (1665-1666) - Olew ar gynfas, 45 x 40 cm, Oriel Gelf Genedlaethol, Washington
- Girl with a Pearl Earring (a.k.a. Girl In A Turban, Head Of Girl In A Turban, The Young Girl With Turban) (tua 1665) - Olew ar gynfas, 46.5 x 40 cm, Mauritshuis, Den Haag
- The Concert (1665-1666) - Olew ar gynfas, 69 x 63 cm, stolen in March 1990 from the Amgueddfa Isabella Stewart Gardner, Boston[1]
- Portrait of a Young Woman (1666-1667) - Olew ar gynfas, 44.5 x 40 cm, Amgueddfa Gelf y Metropolitan, Efrog Newydd
- The Allegory of Painting or The Art of Painting (1666/67) - Kunsthistorisches Museum, Wien
- Meistres a Morwyn (1667/68) - Frick Collection, Efrog Newydd
- Merch a het goch (1668) - Oriel Gelf Genedlaethol, Washington
- Y Seryddwr (1668) - Louvre, Paris
- Y Daearyddwr (1668/69) - Städelsches Kunstinstitut, Frankfurt am Main
- The Lacemaker (1669/70) - Louvre, Paris
- Y llythyr cariad (1669/70) - Rijksmuseum, Amsterdam
- Lady writing a Letter with her Maid (1670) - Olew ar gynfas, 71.1 x 58.4 cm, Oriel Genedlaethol Iwerddon, Dulyn
- Alegori o Ffydd (1671/74) - Amgueddfa Gelf y Metropolitan, Efrog Newydd
- Y Chwaraewr Gitâr (1672) - Rhodd Iveagh, Tŷ Kenwood, Llundain
- Lady Standing at a Virginal (1673/75) - Oriel Genedlaethol, Llundain
- Lady Seated at a Virginal (1673/75) - Oriel Genedlaethol, Llundain
Cynnwys |
Oriel [golygu]
- Paetiadau gan Vermeer, yn nhrefn cronolegol
-
Young woman sleeping (Metropolitan Museum of Art, New York) (1656-1657)
-
Officer and a Laughing Girl (Frick Collection, New York) (1657-1659)
-
The Milkmaid (Rijksmuseum, Amsterdam) (tua 1658)
-
The Wine Glass (1658-1661)
-
View of Delft (Mauritshuis, The Hague) (1660-1661)
-
Woman in Blue Reading a Letter (Rijksmuseum, Amsterdam) (ar ôl 1664)
-
Woman Holding a Balance (1665)[2]
-
The Girl with the Pearl Earring (Mauritshuis, The Hague) (1665)
-
The Loveletter (Rijksmuseum, Amsterdam) (1670)
-
A Lady Seated at a Virginal ([[Oriel Genedlaethol (Llundain)|]], Llundain) (1672)
Gweithiau o awduraeth ansicr [golygu]
- Saint Praxidis (tua 1655) - Olew ar ganfas, 102 x 83 cm, Casgliad Preifat
- Girl with a Flute (1665-1670) - Olew ar banel, 20 x 17.8 cm, Oriel Genedlaethol Celf, Washington
- A Young Woman Seated at the Virginals (1670) - Wynn Las Vegas, Las Vegas
- Portrait of a Woman (1655-1660) -
Gweithiau ffug [golygu]
Paetiwr o'r Iseldiroedd oedd Han van Meegeren, a weithiodd yn y traddodiad clasurol. Penderfynnodd baentio gwaith Vermeer ffug i brofi i feirniadwyr ei fod yn baentiwr da. Yn ddiweddarach, paentiodd rhagor o waith ffug Vermeer ac arlunwyr eraill er mwyn ennill arian. Fe dwyllodd Van Meegeren y sefydliad celf, ni gymerwyd ef o ddifri tan iddo ddangos ei sgiliau o flaen yr heddlu. Fe ddychrynodd ei ddawn am greu gwaith celf ffug y byd celf, gan achosi i weithiaue a'u pennodwyd i Vermeer gael eu hasesu er mwyn cysidro eu dilysrwydd. Wedi datguddiad Van Meegeren yn 1945, fe ddechruodd nifer o orielau hunan feirniadu a diflannodd nifer o hen feistrau o'u waliau. Rhoddir engreifftiau ym mywgraffiad Van Meegeren, A New Vermeer.
Vermeer mewn gweithiau eraill [golygu]
- Mae View of Delft Vermeer yn ymddangos mewn rhan pwysig o nofel gan Marcel Proust The Captive.
- Mae'r llyfr Girl with a Pearl Earring a'r ffilm gyda'r un enw, wedi eu henwi ar ôl y paentiad; maent yn cyflwyno adroddiad ffuglen o greadigaeth y paentiad a pherthynas Vermeer gyda'r fodel.
- Mae'r llyfr Girl in Hyacinth Blue wedi ei seilio ar baentiad ffuglenol gan Vermeer, a troswyd yn ffilm ar gyfer y teledu yn 2003, Brush with Fate.
- Ysbrydolwyd gwirodlyn Vermeer Dutch Chocolate Cream Liqueur gan Vermeer, ac enwyd ar ei ôl, mae ei lofnod wedi ei boglynnu ar y fotel, ac mae'r logo yn cynnwys y paentiad Girl with a Pearl Earring.
- Redd gan Salvador Dalí lawer o edmygedd o Vermeer, a phaentiodd fersiwn ei hun o The Lacemaker. Fe baentiodd Dali The Ghost of Vermeer of Delft Which Can Be Used As a Table yn 1934.
- Mae nofel blant 2003, Chasing Vermeer, gan Blue Balliett, yn disgrifio lladrata A Lady Writing, mae dilysrwydd paentiadau Vermeer yn thema canolig (hefyd yn y llyfr The Wright 3 sy'n dilyn).
- Seiliodd y cyfansoddwr Iseldiraidd, Louis Andriessen, ei opera Writing to Vermeer (1997-98, libretto gan Peter Greenaway), ar fywyd cartref Vermeer.
- Mae ffilm Greenaway, A Zed & Two Noughts (1985), yn cynnwys llinell plot sy'n dilyn lawfeddyg orthopedic, Van Meegeren, sy'n ail-greu gosodiad paentiadau Vermeer er mwyn peintio copïau ohonynt.
- Mae'r llyfr a'r ffilm Girl, Interrupted yn cyryd eu henwau o'r llun Girl Interrupted at her Music.
- Mae Jan Vermeer yn deitl cân ar albwm unigol Bob Walkenhorst, The Beginner (lyrics here, song #6). Walkenhorst is the guitarist and principal songwriter for The Rainmakers.
- All the Vermeers in New York, a film by Jon Jost
Nodiadau a ffynonellau [golygu]
Ffynonellau penodol:
- ↑ Stolen, rhaglen ddogfen am lladrad The Concert, o wefan PBS
- ↑ In-depth discussion of "Woman Holding a Balance" o wefan Oriel Genedlaethol Celf
Ffynonellau Cyffredin:
- Sheldon, Libby and Nicola Costaros (2005), Johannes Vermeer’s ‘Young woman seated at a virginal’, THE BURLINGTON MAGAZINE, Chwefror 2006, Rhifyn 1235, Pennod CXLVIII.
- Schneider, Nobert (1993), Vermeer, Benedikt Taschen Verlag GmbH, Köln.
- Wadum, J., “Contours of Vermeer”, Vermeer Studies. Studies in the History of Art, 55. Center for Advanced Study in the Visual Arts, Symposium Papers XXXIII, gol. I. Gaskel a M. Jonker. Washington/New Haven (1998), tud. 201-223.
- Encyclopædia Britannica Online Vermeer, Johannes. (2007).
- Frederik H. Kreuger (2007) A New Vermeer, Life and Work of Han van Meegeren (ISBN 978-90-5959-047-2)
- [1]
- Arthur K. Wheelock, Jr. (1981,1988) Jan Vermeer (ISBN 0-8109-1737-8).
Dolenni allanol [golygu]
- (Iseldireg) Vermeercentrum, Guild of Saint Luke, Delft. (Mae wedi ail-agor ers yr erthygl hon)
- (Saesneg) Essential Vermeer
- (Saesneg) Virtual Vermeer