Den Haag
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth The Hague)
Canolfan llywodraeth a senedd yr Iseldiroedd a thrigfan Brenhines yr Iseldiroedd yw Den Haag (
ynganiad Iseldireg ?/i ) neu ’s-Gravenhage (Cymraeg hefyd Yr Hâg). Mae hefyd yn brifddinas talaith (provincie) Zuid-Holland (De Holland). Mae'n drydedd o ran poblogaeth ymysg dinasoedd y wlad. Er bod llywodraeth a senedd yr Iseldiroedd wedi'u lleoli yno, nid prifddinas yr Iseldiroedd yw Den Haag. Y brifddinas yw Amsterdam.
Yn Den Haag y mae pencadlys y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol.
Adeiladau [golygu]
- Amgueddfa Escher
- Gemeentemuseum (amgueddfa celf)
- Koninklijke Schouwburg (theatr)
- Mauritshuis
- Museon
- Palas Hedd
- Paleis Noordeinde (palas brenhinol)
Pobl o'r Haag [golygu]
- Christiaan Huygens, mathemategydd
- Constantijn Huygens, bardd
- Dirk van der Aa, arlunydd
- Mariska Veres, cantores
- Paul Verhoeven, cyfarwyddwr ffilm
- Peter-Jan Wagemans, cyfansoddwr