Jeff Young

Oddi ar Wicipedia
Jeff Young
Ganwyd16 Medi 1942 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw3 Hydref 2005 Edit this on Wikidata
o clefyd Alzheimer Edit this on Wikidata
Harrogate Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Cymry Llundain, Bridgend Ravens, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig Edit this on Wikidata
SafleBachwr (rygbi) Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Roedd Jeffrey "Jeff" Young OBE (16 Medi 1942 - 3 Hydref 2005) yn chwaraewr Rygbi'r undeb a enillodd 23 o gapiau dros Gymru fel bachwr rhwng 1968 a 1973.

Ganed Young ym Mlaengarw ac addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Garw a Choleg San Luc, Caerwysg. Chwaraeodd bum gwaith dros Ysgolion Uwchradd Cymru. Athro oedd wrth ei alwedigaeth. Chwaraeodd rygbi dros glybiau Blaengarw, Harrogate, Penybont-ar-Ogwr a Chymry Llundain. Chwaraeodd i dîm Dwyrain Cymru a gafodd gêm gyfartal gyda'r Crysau Duon yn 1967.

Chwaraeodd i Gymru am y tro cyntaf yn erbyn yr Alban yng Nghaerdydd yn 1968, a daeth yn ddewis cyntaf fel bachwr i Gymru, gan chwarae mewn 22 o'r 26 gêm ryngwladol nesaf. Chwaraeodd yn y tîm a enillodd Y Gamp Lawn yn 1971 ac ymddangosodd am y tro olaf yng nghryd Cymru yn erbyn Ffrainc ym Mharis yn 1973. Wedi hynny enillodd Bobby Windsor y gystadleuaeth am safle'r bachwr. Dewiswyd Young i fynd ar daith i Dde Affrica gyda'r Llewod Prydeinig yn 1968 a chwaraeodd yn y gêm brawf gyntaf.

Yn 1971 rhoes y gorau i fod yn athro ac ymunodd â'r RAF. Yn 1991 daeth yn rheolwr technegol cyntaf Undeb Rygbi Cymru ac yn ddiweddarach bu'n Rheolwr Rygbi yn Harrogate. Derbyniodd yr OBE am ei wasanaeth i rygbi a'r RAF. Bu farw Jeff Young yn Harrogate, Swydd Efrog, yn Hydref 2005.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]