Hunan leddfu

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dyn yn hunan leddfu.

Halio (neu'n ar lafar: wancio; hefyd cilddyrnu neu mwdwlwasgu) yw'r weithred o gyffroi'r organau rhywiol, fel arfer i bwynt orgasm a hynny gan y person ei hun neu arall. Mae'n rhan o set ehangach o weithredoedd a adnabyddir fel awtoserchyddiaeth, sydd hefyd yn cynnwys defnyddio tegannau rhyw a symbylu an-genhedlol. Mae yna hefyd beiriannau halio sy'n cael eu defnyddio i efelychu cyfathrach rywiol er mwyn pleser. Pan fo'r weithred hwn yn digwydd gan fwy nag un person fe ddywedir eu bônt yn cyd-halio (Saesneg: Mutual masturbation).

Hunan leddfu a chyfathrach rywiol yw'r arferion rhywiol mwyaf cyffredin, ond nid ydynt yn cyd-anghynhwysol (er enghraifft, mae nifer o bobl yn gweld golwg eu partner yn hunan leddfu yn hynod o nwydol). Gall rhai bobl gyrraedd orgasm dim ond drwy hunan leddfu. Yn nheyrnas yr anifeiliaid, mae hunan leddfu i'w weld mewn sawl rhywogaeth mamal, yn yr anial ac mewn caethiwed.

Benywaidd[golygu]

Cyd-leddfu.

Prif organ rhywiol benywaidd yw'r clitoris, ac mae rhan o hunan leddfu benywaidd ynymwneud â chosi neu rwbio'r clitoris fel arfer. Mae rhai merched yn rhoi cala goeg yn eu gweiniau, cryno ddic neu'n defnyddio eu bysedd i greu'r pleser hwn.

Ar yr un pryd mae rhai'n hoffi cael eu brestiau neu anws wedi'u rhwbio, yn aml efo olew. Mae erill yn medru croesi eu coesau a gwasgu eu mysls eu cluniau at eu gilydd er mwyn cael cyffro. Weithiau maen nhw'n gwneud hyn yn gyhoeddus, heb i neb wybod. [1][2]

Gwrywaidd[golygu]

Mae bechgyn yn gafael yn eu codiad ac yn ei rwbio er mwyn cael yr un effaith.

Notes[golygu]

  1. Koedt, Anne (1970). "The Myth of the Vaginal Orgasm". Chicago Women's Liberation Union. http://www.cwluherstory.org/myth-of-the-vaginal-orgasm.html. Adalwyd 2010-11-18. 
  2. The Kinsey Institute Data from Alfred Kinsey's studies. Published online.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Sexuality icon.svg Eginyn erthygl sydd uchod am rywioldeb. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato