Cala goeg
Tegan rhyw yw cala goeg, robococ neu ffugbidlen (Saesneg a sawl iaith arall: dildo), sy'n cael ei ddefnyddio yn ystod hunan leddfu (halio neu mastwrbio) neu wrth gael cyfathrach rywiol. Mae o siâp fel pidyn, ac mae'n cael ei roi i mewn yn y wain neu'r anws. Nid oes gan gala goeg gyffredin drydan; eithr defnyddir cryno ddic (sy'n fwy soffistigedig) gan lawer gan fod modur trydan yn ei yrru, a'r pleser (yn llawer) yn fwy. Ceir rhai mathau gyda strap i'w ddal yn ei le pan fo dwy ferch yn caru; gelwir y math hwn yn 'strap gala' mewn rhai rhannau o Ddyfed.
Fe'i defnyddir trwy ei roi yn y corff tra'n hunan leddfu a'i siglo nôl ac ymlaen. Ceir gwahanol siapau a lliwiau di-ri.
[golygu] Enwau arall
Enwau arall arno yw: dildan, gwain-goswr, hudlath y forwyn, peiriant pleser a teclyn ticlo.