Sgwrs Nodyn:Rhyw

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Rhywioldeb yn ôl gwlad[golygu cod]

Allan o ddiddordeb, pam ydy'r nodyn yn rhoi'r rhestr fer ac ecsotig braidd "Albania · Cymru · Japan · Tsieina"? Mae gennym ni erthygl am rywioldeb yng Nghymru, fe ymddengys, a medra i ddeal pwysigrwydd hanesyddol a chyfoes Tsieina a Siapan, ond Albania? Go brin byddem yn cael erthyglau arbennigol fel hyn ar gyfer pob gwlad yn y byd felly beth am ychwanegu erthyglau i'r nodyn wrth iddynt gael eu creu, er mwyn osgoi llwyth o ddolenni coch? Anatiomaros 17:17, 28 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Sdim rheswm penodol pam - ro'n i'n jyst cyfieithu er mwyn jyst cael y nodyn i ddechrau arni. Mae croeso iti newid/tynnu/ych. pethau wrth weld yn ffit :) -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 23:08, 28 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Dim o bwys mawr, jest mae'n edrych yn rhyfedd. Ia, sylweddolais ar ôl edrych ar y nodyn ar en mai dyna sy ganddyn nhw hefyd - rhaid fod gan yr Anglopedia Anferth fwy na hynny? A wel... efallai bod hyn yn rhoi cyfle i ni guro'r Cawr am unwaith? Rwan, dyna syniad...!  ;-) Anatiomaros 23:17, 28 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Haha. Cer amdani! Fel mae crys t Celtes yn dweud, "Un cais . . . curo'r Saes." LOL. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 00:05, 29 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Mae 'na ddwy ochor (fel sydd i bopeth!) Mae llawer o ddolennau coch yn adlewyrchiad gwael o Wici - fod cymaint o erthyglau HEB eu creu. Ond o safbwynt y Defnyddiwr (yn enwedig y Defnyddiwr newydd a chymharol newydd) y ffordd orau, yn wir y cymhelliad gorau, i greu erthyglau ydy drwy glicio ar y ddolen goch, sy'n mynd ag ef ar unwaith i dudalen olygu wedi'i henwi'n barod. Chwech i un, hanner dwsin i'r llall; ond gan fod y dolennau yma eisioes wedi'u creu, dw i'n cynnig eu bod nhw'n aros. Llywelyn2000 08:41, 29 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Sôn am y gwledydd oeddwn i, Llywelyn, nid y pynciau eraill (gyda llaw, mae angen diwygio ambell enw hefyd, e.e. 'cwnnad'>'codiad'). Pam gael dolenni coch i 'rywioldeb yn... Albania, Japan, Tsieina' yn unig allan o holl wledydd y byd? Dydy o ddim yn gwneud synnwyr. Ond, os cynhwysir pob gwlad/gwladwriaeth yn y byd bydd tua 200 o ddolenni coch ar y nodyn (a phwy sy'n mynd i sgwennu am 'Rywioldeb yn yr Ynysoedd Cocos' ayyb?!). Dyna oedd fy mhwynt: dylem ni ychwanegu'r erthyglau hyn (rhywioldeb yng ngwlad X) pan gawn ni nhw (Cymru yn unig ar hyn o bryd...). Anatiomaros 14:15, 29 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Trafod y cymal "er mwyn osgoi llwyth o ddolenni coch" oeddwn innau. Doeddwn i ddim yn gweld pwrpas trafod dy bwynt am wledydd y byd gan for y pwynt mor amlwg, mor resymegol. Llywelyn2000 14:25, 29 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Dwi'n gweld. Ond yng nghyd-destun yr erthyglau am y gwledydd yn unig oedd fy mhwynt am y dolenni - tipyn o gamddealltwriaeth gan y ddau ohonom ni felly? Sgen ti gynnig am rai o'r termau (gw. uchod)? Mae rhai yn edrych yn rhyfedd iawn (barebacio?!). Anatiomaros 14:43, 29 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Does na ddim grwp ar gyfer "Offer" ee cala goeg a cryno ddic

Efelychu 'en'[golygu cod]

Gwelaf fod gennym ni ddolen goch at erthygl am 'Anarchiaeth a rhyw/cariad'. Pam anarchiaeth yn unig, tybed? Beth am yr holl '-aethau' gwleidyddol eraill? Beth am 'Comiwnyddiaeth a rhyw/cariad', 'Ceidwadaeth a rhyw/cariad' (rwan, dyna bwnc!) ayyb? Y gwir ydy ein bod yn copïo pob dim yn verbatim o'r Anglopedia yn rhy aml ac yn gosod targedau amhosibl i wici llai fel ni. Byddai'n hawdd fynd i 'en' a chyfieithu'r erthygl sydd yno i wneud pwynt, ond pam geisio copïo popeth sy ganddyn nhw yn y lle cynta yn lle creu ein hagenda ein hunain? Anatiomaros 23:13, 6 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]

Gwaith ar y nodyn newydd[golygu cod]

Documentation icon Dogfennaeth nodyn
How to manage this template's visibility
  • Use {{Rhyw |state=collapsed}}  to show this template in its collapsed (hidden) state.
  • Use {{Rhyw |state=expanded}}  to show this template in its expanded (fully visible) state.
  • Use {{Rhyw |state=autocollapse}}  to show this template in its collapsed (hidden) state only if there is another template of the same type on the page. (This is usually the default, i.e. doesn't usually need specifying.)

Nodyn:Pp-meta This template is about human sexuality/sexual activity. There are numerous related templates for reproduction, relationships, gender identity, legal and ethical aspects, etc. (See categories). This template is an overview, and can not contain every article related to human sex. Before considering adding an item to this template, try to find a more specific navigation template. This template is included on a number of pages. Before making any content additions, please discuss them on the talk page first. When adding or removing an item from the template, be sure to make the appropriate change to the target page as well.

See also