Cryno ddic
Oddi ar Wicipedia
Tegan rhyw yw cryno-ddic, cryno ddic neu cryniadur (Sa: vibrator), sy'n cael ei ddefnyddio yn ystod hunan leddfu neu gyfathrach rywiol. Mae wedi'i siapio fel pidyn (ond weithiau cryn dipyn mwy), ac mae e'n cael ei roi mewn gwain neu anws neu ei ddal ar y clitoris neu unrhyw fan sensitif arall o'r corff. Ceir math di-drydan hefyd a elwir yn gala goeg.
Enwau arall arno yw: cryniadur, gwain-grynwr, peiriant pleser, feibradur, teclyn ticlo a ffwrchfodur.