BDSM

Oddi ar Wicipedia
BDSM
Enghraifft o'r canlynolisddiwylliant Edit this on Wikidata
Mathffetisiaeth rywiol, sexual roleplay, ffordd o fyw, sadomasochism Edit this on Wikidata
Yn cynnwysdomination and submission, sadomasochism, Bondais Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Goth mewn gwisg bale wedi'i rhwymo neu ei chlymu gan berson sy'n dymuno teimlo pŵer a gwefr rhywiol o wneud hynny.

Math o chwarae erotig rhwng un, dau neu ragor o bobl ydy BDSM (talfyriad neu acronym o'r geiriau Saesneg: Bondage and Discipline, Dominance and Submission, Sadism and Masochism) sy'n creu tensiwn rhywiol drwy bŵer a phoen. Fe ddefnyddir y term BDSM bron ym mhob iaith.

Mae BDSM yn cynnwys llawer iawn o wahanol fathau o chwaraeon neu weithgareddau; ac edrychir arnynt gan rai pobl yn annormal.

Mae sawl rôl gan gynnwys y domineiddiwr a'r derbyniwr, y sadydd a'r masocydd, sy'n ddibynnol ar ei gilydd. Mae'r ddau yn derbyn pleser o'r chwarae rôl a hwnnw yn bleser rhywiol.

Bondais (rhywglymu) a Disgyblaeth[golygu | golygu cod]

Dyma ddau isddosbarth o BDSM ac mae'r ddau yn wahanol iawn, ond eto maen nhw'n cael eu cysylltu'n gryf â'i gilydd. Mewn bondais (Saesneg: bbondage), mae'r syb yn cael ei glymu neu ei chlymu gan y dom.

Sadomasocistiaeth[golygu | golygu cod]

Y "Dom" a'r "syb": y meistr a'r gwas[golygu | golygu cod]

Y corff[golygu | golygu cod]

Cefn merch wedi ei orchuddio gan gŵyr cannwyll poeth.

Cysyllir BDSM yn aml gyda phoen corfforol, camdrin y corff, torri neu dyllu'r corff, sydd i'r derbynnydd yn boen derbyniol. Defnyddir y term "stres corfforol" yn aml a disgrifir y mwynhad a dderbynir yn dilyn rhyddhau endorphinau yn y cyfnod ar ôl yr orgasm neu'r Alldafliad. Dro arall, mae unigolyn yn gweithredu nid er mwyn derbyn pleser personol ond er mwyn sicrhau fod ei bartner y derbyn pleser.

Chwip-din go iawn[golygu | golygu cod]

Mae rhai pobl yn cael gwefr o daro person arall gyda'r llaw, neu declyn pwrpasol. Dywed rhai seicolegwyr mai cof sydd yma o'r person ei hun yn cael ei daro gan riant neu athro pan oedd yn blentyn.

Hanes[golygu | golygu cod]

Gellir olrhain BDSM yn ôl i'r 9fed ganrif CC - i Artemis Orthia, sef un o ardaloedd mwyaf crefyddol Sparta ble roedd chwipio'r corff yn rhan o ddefod y crefydd. Dyma efallai'r cofnod cyntaf ohono. Mae'r Kama Sutra'n manylu ar 4 math o roi poen ar gorff y syb - ac yn mynnu na ddylid gwneud hynny oni bai fod y syb yn cytuno.

Mae'r enwau Marquis de Sade a Leopold von Sacher-Masoch yn enwau pwysig ym myd y sadydd a'r masocydd. Yn wahanol i'r Kama Sutra (a rheolau BDSM modern), fodd bynnag, doedd Sade ddim yn cytuno gyda'r rheol y dylai'r syb roi ei ganiatâd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am rywioldeb. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato