Oed cydsyniad

Oddi ar Wicipedia
Map yn dangos deddfau Oed cydsyniad yn y byd

Term a ddefnyddir i gyfeirio at yr oed isaf y gall rhywun gymryd rhan yn gyfreithlon mewn gweithgareddau rhywiol yw oed cydsyniad. Er nad yw'n derm cyfreithiol ynddo ei hun, mae'n cael ei ddefnyddio'n eang i ddynodi'r oed yr ystyrir bod person ifanc yn medru cydsynu'n ymwybodol i gael rhyw. Nid yw'n golygu'r un peth â bod yn oedolyn yn ôl deddf gwlad, bod yn atebol am drosedd, na chwaith oed priodi.

Mae oed cydsyniad yn ôl y gyfraith yn amrywio'n sylweddol o wladwriaeth i wladwriaeth. Yr oed ar gyfartaledd yw rhwng 16 a 18, ond mae'r ystod byd-eang yn ymestyn o 9 i 21 oed. Ni cheir cysondeb parthed rhywioldeb chwaith, gyda'r oed yn tueddu i fod yn is ar gyfer rhyw heterorywiol na rhyw cyfunrhywiol. Yn ogystal, mae rhai gwladwriaethau yn gwahardd rhyw y tu allan i briodas yn gyfangwbl. Mae'r oed yn gallu amrywio hefyd yn ôl y math o weithgaredd rywiol, rhyw y rhai sy'n cymryd rhan, ac ystyriaethau eraill megis bradychu ymddiried. Yn ogystal, mae rhai gwledydd yn derbyn weithgaredd rywiol rhwng pobl dan oed cydsyniad y wlad mewn cwestiwn - h.y. dydi o ddim yn anghyfreithlon fel y cyfryw gan fod y rhai sy'n cymryd rhan dan oed. Mae'r gosb am droseddu yn erbyn cyfraith oed cydsyniad yn amrywio'n fawr hefyd.

Ceir anghytundeb sylweddol ar y pwnc a sawl anghysondeb yn y deddfau. Mewn canlyniad, mae oed cydsyniad yn bwnc dadleuol, gyda rhai yn dadlau y dylai fod yn is ac eraill y dylai fod yn uwch. I gymhlethu'r darlun, mae deddfau wedi newid yn y gorffennol ac yn dal i gael eu harolygu heddiw.

Yr oed cydsyniad yng Nghymru a gweddill gwledydd Prydain heddiw yw 16 oed, ond yn y gorffennol mae wedi amrywio o 12 i 18 oed.

Oedran cydsyniad yng ngwledydd Ewrop[golygu | golygu cod]

Mae'r oed cydsyniad yng ngwledydd Ewrop heddiw yn amrywio o 13 i 18 oed. Ni nodir y manylion isod, sy'n gallu bod yn gymhleth.

Eginyn erthygl sydd uchod am rywioldeb. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Eginyn erthygl sydd uchod am y gyfraith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.