Hanes Oman

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Bedd, Al Alyn, Oman

Mae hanes Oman, sydd heddiw yn wladwriaeth ar Orynys Arabia, yn hanes o wrthdaro rhwng llwythau, ymerodraethau, a grymoedd crefyddol a gwleidyddol.

Daeth Islam i'r ardal yn y 700au, ac yn y 800au esgynodd enwad yr Ibadi i rym. Ysbeiliodd y Portiwgaliaid Muscat ym 1507 a chipiwyd arfordir Oman ar gyfer Ymerodraeth Portiwgal. Trechwyd y Portiwgaliaid gan yr Otomaniaid yn y 1650au. Ym 1737 goresgynwyd y wlad gan y Persiaid, a gafodd eu gyrru o'r wlad ym 1749.

Yn sgil trechiad y Persiaid, daeth brenhinllin Al Bu Said i rym. Yn y 19eg ganrif roedd Ymerodraeth Oman yn cynnwys nifer o diriogaethau ar lannau Cefnfor India, gan gynnwys Zanzibar a Mombasa a rhannau o India. Cafodd lywodraeth y wlad ei hollti ym 1913, ac ym 1920 cytunodd y swltan i gydnabod hunanlywodraeth yr imamiaid Ibadi yng nghanolbarth Oman. Ym 1954 cychwynnodd wrthdaro wrth i'r imamyddion geisio am wladwriaeth annibynnol. Ym 1959 ad-enillodd y Swltan Said bin Taimur reolaeth o ganolbarth y wlad, gan deyrnasu dros lywodraeth ffiwdal ac ynysyddol.

Darganfuwyd cronfeydd olew ym 1964, gan wneud Oman yn bwysig ar y lwyfan ryngwladol. O 1962 hyd 1976 bu lluoedd comiwnyddol yn brwydro'n erbyn y llywodraeth yng Ngwrthryfel Dhofar. Gorchfygwyd y gwrthryfel gyda chymorth lluoedd Gwlad Iorddonen ac Iran. Ers 1970, pan cafodd y Swltan Said bin Taimur ei ddymchwel gan ei fab Qaboos bin Said, mae'r Swltan Qaboos wedi ceisio moderneiddio a rhyddfrydoli'i wlad.

Flag of Oman.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Oman. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.