Hanes Irac

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Er bod Gweriniaeth Irac yn greadigaeth gymharol ddiweddar, ymestyn hanes Irac yn ôl i gyfnod gwawr gwareiddiad ac mae hi wedi bod yn gartref i sawl gwareiddiad dros y canrifoedd ac wedi chwarae rhan bwysig yn hanes y Dwyrain Canol ers cyfnod yr Henfyd.

Hen hanes[golygu]

Map braslun o Fesopotamia

Mae Gweriniaeth Irac wedi ei sefydlu ar dir a abnabyddir yn hanesyddol fel Mesopotamia, sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o fraich ddwyreiniol y Cilgant Ffrwythlon. Dyma oedd cartref nifer o'r gwareiddiadau cynharaf. Gelwir yr ardal yn aml yn Grud Gwareiddiad o'r herwydd. Roedd yn gartref i ymerodraeth Akkad yn y gogledd a Swmeria ac yna Babilonia yn y de. Ymhlith ei dinasoedd enwog yn y cyfnod hwnnw gellid crybwyll Ur y Caldeiaid (dinas enedigol Abraham), Babilon (lle codwyd y Gerddi Crog enwog), Erek a Nimrwd.

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Y cyfnod Helenistaidd a chlasurol[golygu]

Yn sgîl cwymp Babilonia bu Mesopotamia dan reolaeth ymerodron Persia. Am gyfnod Babilon oedd prifddinas ymerodraeth fyrhoedlog Alecsander Mawr.

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Yr Oesoedd Canol[golygu]

Dan y califfiaid Abassid roedd Baghdad yn brifddinas y byd Mwslemaidd a blodeuai diwylliant unigryw a chyfoethog. Noddid llneorion, athronwyr ac athrawon. Newidiwyd hynny i gyda gyda chwymp Baghdad i luoedd y Mongoliaid yn y 13eg ganrif a'r gyflafan a distryw a ddilynodd.

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Y cyfnod trefedigaethol[golygu]

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Hanes diweddar[golygu]

Pan enillodd Irac ei hannibyniaeth yn sgîl yr Ail Ryfel Byd daeth y Ba'athiaid i rym a chychwynwyd cyfnod o foderneiddio a seciwlareiddio. Daeth Saddam Hussein i rym yng Ngorffennaf 1979 a gwelwyd cyfnod o orthrwm i lawer, yn arbennig y Cyrdiaid yn y gogledd a'r Shiaid yn y de, a byd cymharol da i eraill. Bu mewn grym drwy gyfnod y rhyfel yn erbyn Iran pan ymosodwyd ar filwyr a phobl Iran âg arfau cemegol. Yn y cyfnod hwn yr oedd Saddam Hussein yn cael cefnogaeth Prydain ac U.D.A. Parhaodd Irac i fod yn wlad seciwlar a roddai addysg a statws cydraddoldeb a chyfle i ferched y wlad fwynhau rhyddid sy'n cymharu'n dda â'u sefyllfa yn y Gorllewin.

Yn dilyn ei threchu yn Rhyfel y Gwlff, bu rhaid i fyddin yr Arlywydd Saddam Hussein dynnu allan o Kuwait. Ond er fod 14 o 18 y wlad yn gwrthrefyla yn ei erbyn, ni chafodd ei ddisodli.[1]

Achosion Rhyfel Irac[golygu]

Pan ymosododd Iraq ar Kuwait yn ystod rhyfel y Gwlff gwnaeth Cyngor Diogelwch y Cenedloedd Unedig fabwysiadu cynnig 678 dan bennod VII o Siarter y Cenhedloedd Unedig, gan roddi i'r gwledydd yr hawl i ddefnyddio "pob modd posibl" i "adfer heddwch rhyngwladol a diogelwch yr ardal" Ar ôl i Iraq gael ei bwrw allan o Kuwait derbyniwyd cynnig o ymatal 687 gan y Cenedloedd Unedig. Roedd hyn yn cynnwys rheidrwydd ar Iraq i derfynnu ei rhaglen o arfau niwclear.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Saddam Hussein: Tu ôl i'r masg cyhoeddus", BBC, 13 Chwefror, 2003.
Flag of Iraq.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Irac. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Hourglass.svg Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato