Mombasa
Oddi ar Wicipedia
Mombasa (weithiau Mombassa) yw ail ddinas Kenya a phrifddinas talaith Pwani. Saif ar yr arfordir, yn ne-ddwyrain Kenya. Roedd y boblogaeth yn 1999 yn 665,018, amcangyfrifir ei fod tua 900,000 erbyn 2009.
Saif y ddinas ar ynys, er bod rhai o'r maestrefi ar y tir mawr. Mae'n borthladd pwysig, ac hefyd yn ganolfan i dwristiaeth. Nid oes sicrwydd pa bryd y sefydlwyd y ddinas, ond nododd Al-Idrisi yn y 12fed ganrif ei bod yn ganolfan fasnach bwysig. Galwodd y llynghesydd Tsineaidd Zheng He yma tua 1415, a Vasco da Gama yn 1498.