Gyrn Ddu

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cyfesurynnau: 52°59′N 4°23′W / 52.99°N 4.38°W / 52.99; -4.38
Gyrn Ddu
(Penrhyn Llŷn)
Copa Gyrn Ddu gydag arfordir Arfon a de-orllewin Môn yn y cefndir.
Cyfieithiad
Iaith Cymraeg
Testun y llun Copa Gyrn Ddu gydag arfordir Arfon a de-orllewin Môn yn y cefndir.
Uchder (m) 522
Uchder (tr) 1713
Amlygrwydd (m) 385
Lleoliad Pen Llŷn
Map topograffig Landranger 115 123;
Explorer 254
Cyfesurynnau OS SH401467
Gwlad Cymru
Dosbarthiad Marilyn (mynydd) a Dewey
Gyrn Ddu is located in Cymru
Gyrn Ddu (Cymru)

Bryn ar Benrhyn Llŷn yng Ngwynedd yw Gyrn Ddu (hefyd: Gurn Ddu ar y map OS). Saif i'r dwyrain o bentref Trefor ac i'r gogledd-ddwyrain o Lanaelhaearn. Mae copa arall ychydig yn is, sef Gyrn Goch, ychydig i'r gogledd-ddwyrain o'r Gyrn Ddu; cyfeiriad grid SH401467. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 137metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Ceir carneddi o Oes yr Efydd ac olion tai o Oes yr Haearn ar y mynydd. Ar ei lechweddau dwyreiniol, mae olion nifer o hen chwareli ithfaen.

Mae Afon Erch yn tarddu ar lethrau deheuol Gyrn Ddu ac mae tarddle Afon Hen i'w gael yng Nghors-y-ddalfa rhwng Gyrn Ddu a Bwlch Mawr, i'r dwyrain.

Y copa[golygu]

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd) a Dewey. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 522m (1713tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 28 Hydref 2001.

Gweler hefyd[golygu]

Dolennau allanol[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]