Gwas y neidr
| Gweision y neidr | |
|---|---|
| Gwas-neidr llachar (Aeshna cyanea) | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Arthropoda |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Odonata |
| Is-urdd: | Anisoptera |
| Teuluoedd | |
|
Aeshnidae |
|
Pryf gydag adenydd dwbwl sy'n perthyn i urdd Odonata yw gwas y neidr (lluosog: gweision y neidr). Mae'n byw ger llynnoedd, nentydd a gwernydd ac maen nhw'n bwyta mosgitos, gwybed, clêr, gwenyn, gloynnod byw ynghyd â phryfed eraill. Dydyn nhw ddim yn brathu nac yn pigo dyn. Mae'r gair Groeg Anisoptera yn golygu "adenydd anwastad" gan fod yr adain cefn yn lletach na'r rhai blaen.[1]
Un o brif nodweddion gwas y neidr yw ei lygaid cyfansawdd enfawr, dau bâr o adenydd a chorff hir. Fel pob pryfyn arall mae ganddyn nhw chwe choes; ond nid ydy'r rhan fwyaf ohonyn nhw, bellach, yn medru cerdded. Mae'r gwas y neidr ymhlith y pryfaid a all hedfan gyflymaf. Dim ond am chwe mis y mae rhai gweision y neidr yn byw, tra bod eraill yn byw cyn hired â chwe neu saith mlynedd.
Ceir oddeutu 5680 math gwahanol o was y neidr ar y ddaear.[2]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Odonata at Tree of Life web project. Retrieved 2011-09-18.
- ↑ V.J. Kalkman, V. Clausnitzer, K.B. Dijkstra, A.G. Orr, D.R. Paulson, J. van Tol (2008). Global diversity of dragonflies (Odonata) in freshwater. In E. V. Balian, C. Lévêque, H. Segers & K. Martens. "Freshwater Animal Diversity Assessment". Hydrobiologia 595 (1): 351–363. doi:10.1007/s10750-007-9029-x.