Picellwr cribog

Oddi ar Wicipedia
Picellwr cribog
Yn yr Almaen
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Is-urdd: Anisoptera
Teulu: Libellulidae
Genws: Orthetrum
Rhywogaeth: O. coerulescens
Enw deuenwol
Orthetrum coerulescens
(Fabricius, 1798)

Gwas neidr o deulu'r Libellulidae ('Y Picellwyr') yw'r Picellwr cribog (Lladin: Orthetrum coerulescens; Saesneg: keeled skimmer; lluosog: picellwyr cribog). Dyma'r teulu mwyaf o weision neidr drwy'r byd, gyda dros 1,000 o rywogaethau gwahanol. Mae i'w ganfod, gan fwyaf, yng ngogledd Ewrop, gan gynnwys: yr Alban, Iwerddon, Cymru a Lloegr.

Ceir tebygrwydd rhyngddo a'r Picellwr tinddu; nid yw pen cynffon y gwryw mor dywyll. Mae'r Picellwr cribog hefyd ychydig yn deneuach na'r Picellwr tinddu. Hyd ei adenydd yw 44mm ac mae'r oedolyn i'w weld yn hedfan rhwng Mehefin a Medi ger llwyni o goed, llysdyfiant a phlanhigion eraill ar lanau llynnoedd llonydd a phyllau dŵr. Mae'n hoff iawn o dir mawnog, lle mae'n paru ac yn dodwy; ac fe'i gwelir yn aml mewn mawnogydd gyda Gweision neidr eurdorchog.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]