Gwas neidr glas

Oddi ar Wicipedia
Gwas neidr glas
Gwryw yn yr Almaen
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Teulu: Aeshnidae
Genws: Aeshna
Rhywogaeth: A. juncea
Enw deuenwol
Aeshna juncea
(Linnaeus, 1758)

Gwas y neidr mawr o deulu'r Aeshnidae yw'r gwas neidr glas (Aeshna juncea). Fe'i ceir yn Ewrasia a Gogledd America. Ym Mhrydain, mae'n fwyaf cyffredin mewn rhanbarthau gogleddol a gorllewinol.[1]

Mae'n 75 mm o hyd ac mae'r adain blaen yn mesur 40–50 mm.[2] Mae gan y gwryw linellau melyn, cul ar y thoracs. Ceir smotiau glas a melyn ar abdomen y gwryw a smotiau melyn, gwyrdd neu weithiau glas ar abdomen y fenyw.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Brooks, Steve (2002) Field Guide to the Dragonflies and Damselflies of Great Britain and Ireland, British Wildlife Publishing, Hampshire.
  2. Chinery, Michael (2005) Collins Complete British Insects, Collins, Llundain.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am bryf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.