Garlleg
| Garlleg | |
|---|---|
| Planhigyn garlleg | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Monocotau |
| Urdd: | Asparagales |
| Teulu: | Amaryllidaceae |
| Is-deulu: | Allioideae |
| Genws: | Allium |
| Rhywogaeth: | A. sativa |
| Enw deuenwol | |
| Allium sativa L. |
|
Rhywogaeth yn is-deulu Allioideae y nionyn yw Allium sativum, a elwir yn garlleg yn gyffredin. Mae ei berthnasau agos yn cynnwys y nionyn, sialotsyn, cenhinen, a chenhinen syfi.[1] Defnyddiwyd garlleg drwodd hanes a gofnodwyd am bwrpasau'r ddau goginiol a meddygaeth. Mae ganddo nodwedd lem, blas sbeislyd sy'n aeddfedu a melysu'n gryn lawer â choginio.[2] Rhennir bwlb garlleg, y darn mwyaf defnyddir y planhigyn, i mewn i sawl adran gigog o'r enw clofau. Garlleg clog unigol yn bodoli hefyd, yn tarddu yn nhalaith Yunnan, Tsieina. Defnyddir y clofau fel hedyn, am gymeriant (amrwd neu wedi'i goginio), ac am bwrpasau meddygol. Bwyteir y dail, coesynnau (llun), a blodau (bylbynnau) ar y pen (fflurwain) hefyd, ac fel arfer wrth iddynt yn anaeddfed a thendr o hyd. Mae haenau papuraidd, amddiffynnol y "croen" ar ddarnau amrywiol y planhigyn a gwreiddiau atodwyd i'r bwlb yw'r unig ddarnau a ystyrir yn ddi-flasus.
Rhinweddau meddygol [golygu]
Fe'i defnyddir dros bum mil o flynyddoedd yn ôl gan yr Arabiaid, fel meddyginiaeth.[3] Mae'n llawn o Fitamin B, Fitamin C, Fitamin D, copr, sinc, alwminiwm, manganis, sylffwr a haearn. Gellir ei ddefnyddio fel antiseptig organig hefyd, neu i ostwng pwysedd gwaed uchel, sŵn yn y glust, pendro, cramp, dolur rhydd neu wynt yn y stumog. Fe'i defnyddid ers talwm, hefyd, i ladd llyngyr ac i atal gwaedlif yn y ffroenau.[4]
Dengys ymchwiliadau modern drwy'r byd fod garlleg yn dda i ymladd clefydau sy'n ymwneud â'r galon.[3]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Eric Block, "Garlic and Other Alliums: The Lore and the Science" (Cambridge: Royal Society of Chemistry, 2010)
- ↑ Gernot Katzer (2005-02-23). Spice Pages: Garlic (Allium sativum, garlick). Adalwyd ar 2007-08-28.
- ↑ 3.0 3.1 [1] Prifysgol Merryland
- ↑ Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.