Craf y geifr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Craf y Geifr)
Craf y geifr
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Monocotau
Urdd: Asparagales
Teulu: Amaryllidaceae
Is-deulu: Allioideae
Genws: Allium
Rhywogaeth: A. ursinum
Enw deuenwol
Allium ursinum
L.

Planhigyn blodeuol yw Craf y geifr (Lladin: Allium ursinum; Saesneg: Wild Garlic neu Ransoms; Ffrangeg: Ail des vignes) sy'n tyfu'n wyllt ar ochr ffyrdd. Mae ganddo sawl enw Cymraeg gan gynnwys: Garlleg gwyllt, Craf gwyllt, Craf y meysydd, Garlleg y brain, Garlleg Mair, Winwnsyn gwyllt, Winwnsyn y cŵn a Thriagl y tlawd.

Mae gan bob rhan ohono arogl garlleg cryf iawn. Maint y bwlb tanddaearol ydy rhwng 1 a 2 cm o ran diamedr. Mae'r prif goesyn rhwng 30 – 120 cm o daldra gyda 2 - 4 deilen hir rhwng 15 – 60 cm o ran hyd a'r rheiny yn drwchus gyda theimlad cŵyr cannwyll iddyn nhw. Pethau cymharol fychan ydy'r blodau: 2 – 5 mm yn unig o liw gwyn ysgafn, ysgafn a chwe phetal i bob un. Maen nhw'n blodeuo rhwng Mehefin ag Awst.

Oherwydd natur 'olewog' y dail, nid yw chwynladdwyr yn effeithiol iawn ar y planhigyn a gall fynd yn rhemp mewn gardd.

Coginio[golygu | golygu cod]

Gellir defnyddio'r gwreiddyn yn lle garlleg yn y gegin i roi blas ar fwyd. Mae cig oen neu gig eidionnau sydd wedi pori ar arlleg gwyllt yn blasu o arlleg. Trosglwyddir y blas mewn modd derbyniol ond mae'n cael ei gyfrif yn chwynyn pan fo'n tyfu mewn cae o weiriau megis gwenith neu ŷd. Mae'r dail yn fwytadwy yn yr haf a'r hydref.

Ffeithiau difyr[golygu | golygu cod]

Dyma gasgliad o waith ymchwil plant Ysgolion Llangoed a Biwmares (Bro Seiriol), Ynys Môn[1]:

  • Mae'r planhigyn yma yn perthyn i'r teulu nionod gwyllt.
  • Hefyd mae’n blanhigyn sy’n luosflwydd.
  • Mae pob rhan o’r planhigion yn cynnwys arogl garlleg.
  • Fe all prif goes y planhigyn dyfu rhwng 30 cm i 120 cm o dal.

Rhinweddau meddygol[golygu | golygu cod]

Dywedir y gall gynorthwyo'r claf sy'n dioddef o asma a chlefydau eraill sy'n ymwneud â'r ysgyfaint a bod yn y planhigyn elfennau sy'n clirio'r gwaed. Mae'n effeithiol i ladd llyngyr mewn plant hefyd.[2]

Gellir rhwbio'r sudd dros y corff i gadw gwybed a phryfaid eraill i ffwrdd.

Mae Craf y geifr wedi cael ei ddefnyddio ers canrifoedd fel llysieuyn gwrthfacteria (gwrthfiotig), ac mae ymchwil gwyddonol diweddar yn profi ei fod yn effeithiol iawn.[3]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]