Gareth Thomas (chwaraewr rygbi)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gareth Thomas
Gareth Thomas (rugby player).jpg
Gareth Thomas yn 10, Stryd Downing i lansio ymgyrch yn erbyn homoffobia ym myd chwaraeon, Awst 2011
Ganwyd 25 Mehefin, 1974
Sarn, Pen-y-bont ar Ogwr, Cymru
Enwau eraill Alfie
Galwedigaeth chwaraewr rygbi

Chwaraewr rygbi'r undeb a rygbi'r gynghrair Cymreig yw Gareth Thomas, a adwaenir hefyd fel Alfie, (ganed 25 Mehefin 1974) Mae wedi enill mwy o gapiau rhyngwladol dros Gymru nag unrhyw chwaraewr arall. Gall chwarae fel cefnwr, canolwr neu asgellwr.

Bywgraffiad[golygu]

Ganed Thomas yn Sarn, Pen-y-bont ar Ogwr.

Gyrfa[golygu]

Rygbi'r undeb[golygu]

Bu'n chwarae i dîm Pen-y-bont ar Ogwr a Caerdydd cyn dychwelyd i Ben-y-bont ar Ogwr pan gyflwynwyd rygbi rhanbarthol, ymunodd â'r Rhyfelwyr Celtaidd yn nhymor 2003/2004. Y tymor wedyn ymunodd a Toulouse, gan ennill Cwpan Heineken gyda hwy yn 2005. Ym mis Ionawr 2007, ymunodd â Gleision Caerdydd.

Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru ar 27 Mai 1995 yn erbyn Japan. Ar 26 Mai 2007, torrodd record Gareth Llewellyn trwy ennill ei 93ain cap. Chwaraeodd ei ganfed gêm dros Gymru yn erbyn Ffiji yng Nghwpan y Byd, 2007. Nid yw wedi chwarae dros Gymru ers hynny. Mae'n dal y record am y nifer fwyaf o geisiadau a sgoriwyd dros Gymru gyda 40, cyfanswm a gyrhaeddodd Shane Williams hefyd yn ddiweddar.

Teithiodd i Seland Newydd gyda'r Llewod yn 2005, ac wedi i'r capten Brian O'Driscoll gael ei anafu, dewiswyd Thomas yn gapten yn ei le.

Rygbi'r gynghrair[golygu]

Yn mis Mawrth 2010, arwyddodd Thomas gyda glwb Croesgadwyr Rygbi'r Gynghrair ar gytundeb o 18 mis.

Bywyd personol[golygu]

Rhwng 2002 a 2006, roedd Thomas yn briod â'i wraig Jemma. Priododd y ddau yn St Brides Major, ger Pen-y-bont ar Ogwr, ac ysgarodd y ddau yn 2007; yn ystod eu perthynas, collodd Jemma dri phlentyn.[1]

Ym mis Rhagfyr 2009 cyhoeddodd Thomas ei fod yn hoyw.[1] Dywedodd wrth bapur newydd y Daily Mail , "I don't want to be known as a gay rugby player. I am a rugby player, first and foremost I am a man."[2] Ar hyn o bryd, Thomas yw'r unig chwaraewr rygbi proffesiynol sydd yn dal i chwarae i gadarnhau ei rywioldeb yn gyhoeddus.[3] Mewn cyfweliad gyda'r BBC, soniodd Thomas ei fod yn gobeithio y bydd chwaraewyr rygbi hoyw ifainc y dyfodol yn medru dod allan a chael eu derbyn fel "chwaraewyr rygbi hoyw talentog".[4] Dywedodd Thomas hefyd fod yr hyn "I choose to do when I close the door at home has nothing to do with what I have achieved in rugby."[5]

Yn Ionawr 2011, cyhoeddwyd fod yr actor Americanaidd Mickey Rourke yn awyddus i gynhyrchu ffilm am fywyd Thomas, gyda Rourke ei hun yn chwarae'r prif gymeriad.[6]

Ar 6 Ionawr 2012, ymddangosodd Thomas ar gyfres deledu Channel 5 Celebrity Big Brother.[7]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1  British Lions rugby legend Gareth Thomas: 'It's ended my marriage and nearly driven me to suicide. Now it's time to tell the world the truth — I'm gay'. Daily Mail (18 Rhagfyr 2009). Adalwyd ar 18 Rhagfyr 2009.
  2.  Ex-Lion Gareth Thomas reveals he is gay. BBC (19 Rhagfyr 2009).
  3.  Wales and Lions full-back Gareth Thomas reveals he is gay. The Daily Telegraph (18 Rhagfyr 2009).
  4.  In-depth interview - Gareth Thomas. BBC (22 Rhagfyr 2009). Adalwyd ar 22 Rhagfyr 2009.
  5.  Jamie Doward (19 Rhagfyr 2009). Gay activists praise rugby star Gareth Thomas's decision to come out. The Guardian. Adalwyd ar 28 Rhagfyr 2009.
  6. Hollywood’s Rourke to learn Welsh and lose two front teeth for Alfie film role WalesOnline. 02-01-2011. Adalwyd ar 02-01-2011
  7. Gareth Thomas ar Celebrity Big Brother Golwg360. 06-01-2012