Gleision Caerdydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Gleision Caerdydd

Gleision Caerdydd logo.gif

Lliwiau'r Tim

Cartref

Fwrdd

Prif lliwiau
Ail lliwiau

Rhanbarthau Rygbi Cymru 2004

RhanbarthauRygbiCymru.svg

Mae Gleision Caerdydd, tîm rygbi'r undeb Caerdydd, yn chwarae yng Nghynghrair Celtaidd, y Cwpan Heineken a'r Cwpan Eingl-Gymreig.

Hanes y Rhanbarth [golygu]

Mae Gleision Caerdydd yn un o'r pump rhanbarth gwreddiol yn hanes rygbi rhanbarthol Cymru. Hefyd roeddent yn un mas o ddau rhanbarth nad oedd rhaid iddynt gyfuno gyda clwb arall pan ddaeth y rhanbarthau i fodolaeth yng Ngymru ym myd rygbi'r undeb

Yn 2003, penderfynodd Undeb Rygbi Cymru newid lefel uchaf rygbi Cymru o naw clwb i bump rhanbarth, yn dilyn llwyddiant system felly yn Iwerddon, Seland Newydd, Awstralia a De Africa. Roedd yn benderfyniad dadleuol ar y pryd, gyda llawer o gefnogwyr yn erbyn y newidiadau. Gleision Caerdydd oedd y rhanbarth gyntaf i penderfynu ar enw. Fe lansiwyd yr rhanbarth ar y 6ed Mehefin 2003 yn ngwesty'r Hilton, Caerdydd. Fe gorffenodd y Gleision yn 6ed safle yn y Cynghrair Celtaidd yn ei tymor cyntaf, yr rhanbarth gwaethaf o Gymru.

Yn gyntaf yr oedd yr Gleision dim ond yn cynrycholi dinas Caerdydd a Bro Morgannwg. Gyda'r rhanbarth Rhyfelwyr Celtaidd yn cau yn 2004 ar ôl un tymor roedd y Gleision cynrycholi fwy o Morgannwg ac hefyd rhan o Powys. Ar dilyn tymor wael cyrhaeddodd yr rhanbarth 9ed safle o flaen i Connacht a Y Gororau.

Ar dechrau trydydd tymor y Gleision, nid oedd pethau wedi ymddangos i gwella gyda'r tîm yn methu cyraedd ail-rownd Cwpan Heineken. Yn ystod y tymor ymynodd Jonah Lomu gyda'r Gleision ac er nad oedd mor gyflym na gryf pryd chwaraeodd yn Cwpan y Byd, deg flwyddyn cyn, fe daeth llawer o cefnogwyr i'w weld. Yn ystod ail-hanner y tymor dechreuodd yr rhanbarth cael canlyniadau da yn yr Cynghrair Celtaidd ac fe gorfennodd nhw fel yr rhanbarth cryfaf o Gymru yn y 4ydd safle.

Cartref [golygu]

Mae Gleision Caerdydd yn chwarae ar Barc yr Arfau yng Nghaerdydd drws nesaf i'r Stadiwm y Mileniwm. Mae'r mynedfa i Barc yr Arfau ar Stryd Westgate.

Dolen allanol [golygu]