Gŵyl Calan Gaeaf

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pwmpen

Roedd Gŵyl Calan Gaeaf sydd ar 31 Hydref heddiw yn ddydd olaf y flwyddyn Geltaidd, ac mae hi'n ŵyl hyd heddiw. Mae rhai hen draddodiadau megis golau llusern wedi parhau hyd heddiw a mabwysiadwyd rhai arferion diweddar yn fyd-eang megis tanio tân gwyllt i ddathlu'r achlysur. Peidiodd eraill: gwaseila a hela'r dryw ers rhai blynyddoedd.

Hanes[golygu]

I'r Celtiaid, yr oedd Calan Gaeaf yn ddydd pan yr oedd y drws rhwng eu byd hwy a'r byd nesaf yn agor, ac felly yr oedd yn ddydd i dalu teyrnged i'r meirw, yn ogystal ag ofni fod ysbrydion yn ymweld â nhw. Felly, er mwyn rhwystro ysbrydion rhag ymweld â'u tai, yr oedd pobl yn cynnau pob tân yn eu cartrefi. Dechreuodd y flwyddyn Geltaidd Newydd ym mis Tachwedd, pan ddechreuodd y gaeaf, y tymor tywyllaf ac oeraf. Yr oedd tymor y goleuni yn dechrau ar Galan Mai sydd ar 1 Mai heddiw.

Yr oedd amser Calan Gaeaf yn amser prysur iawn i'r bobl. Er mwyn paratoi at y tymor tywyll ac oer yr oedd yn rhaid casglu bwyd fel haidd, ceirch a gwenith, maip, afalau a chnau. Ac i'r bugeiliaid â'u hanifeiliaid yr oedd yn rhaid dychwelyd o'r ucheldiroedd; o'r 'hafod' i lawr i'r 'hendref'.

Ymgeisiodd yr Eglwys gael gwared ar draddodiadau Calan Gaeaf am eu bod nhw'n gwrthdaro â'r grefydd Gristnogol. Felly, cyflwynodd yr Eglwys ŵyl newydd: Gŵyl yr Holl Saint ar 1 Tachwedd.

Traddodiadau Gŵyl Calan Gaeaf[golygu]

Traddodiadau cyffredin[golygu]

Fel arfer, y mae pobl yn defnyddio pwmpen er mwyn creu llusern neu Jac o' Lantern ac mae'r plant yn gwisgo fel ysbrydion neu wrachod, gan guro ar ddrysau pobl eraill ac yn gofyn am "Gast neu geiniog" i gael rhywbeth da fel fferins / losin neu arian. Dyma ydy'r "hel calennig" modern erbyn hyn!

Traddodiadau gwreiddiol Cymru[golygu]

Yn ardaloedd gwledig Cymru, yr oedd pobl yn codi coelcerth ar eu caeau ac yn defnyddio rwdan neu feipen er mwyn creu Jac o' Lantern. Yr oedd pobl yn dweud fod yr Hwch Ddu Gwta (hwch ddu heb ei chynffon) a dynes heb ei phen yn crwydro'r caeau, yn ddigon o reswm i'r plant ddod yn ôl i'r tai yn gynnar. Yr oedd rhai yn dweud fod eiddew yn dda i weld gwrachod.

Y mae rhai pobl yn llenwi powlen â dŵr hyd nes fod hi'n hanner llawn ac yn rhoi afalau ynddi. Bydd yr afalau yn arnofio ar y dŵr a bydd yn rhaid gafael ynddynt gan ddefnyddio'r dannedd.

Yn yr Oesoedd Canol yr oedd yna arferion o roi bwyd i'r meirw, trwy gynnal gwledd fawr a rhoi torth neu gacen i'r tlodion. Hel bwyd cennad y meirw oedd yr hen enw ar hyn ac roedd trigolion Cynwyd, Corwen, Llansanffraid a Glyndyfrdwy yn ffyddlon iawn i'r ddefod hon tan yn ddiweddar. Cerddai llawer iawn o wragedd tlawd o gwmpas y tai yn casglu teisennau. Gwyddom i hyn ddigwydd hyd at 1876 yn yr ardaloedd hyn.[1]

Dyma ddisgrifiad gan Charles Ashton yn 1890:

Yr oedd Nos Galan Gaeaf yn noson bwysig hefyd. Ac nid oedd ein teidiau'n esgeulus o gadw'r hen ddefod o gynnau tanau ar y noson hon, coelcerthi eithin a rhedyn. Dywedir wrthym fod yr arferiad hwn cyn hyned ag amser y Derwyddon, ac mai diben y tanau oedd boddhau'r duwiau. Dylid diffodd y tân ar yr aelwyd y noson honno, hefyd, a'i ail-gynnau gyda phentewyn a ddygent adref o'r goelcerth gysegredig. Mae llawer ohonom yn cofio'r hwch ddu gwta a fyddai yn ymlid y werin anwybodus adref oddi wrth y goelcerth. Y diafol ei hun, mewn rhith hwch ddu â chynffon fer ydoedd yr ymlidiwr. Nid oes ond tri ugain mlynedd er pan yr oedd pobol yn credu fod gan yr hwch ddu nodwyddau blaenllym i drywanu yr hwn a fyddai yr olaf yn myned dros y gamfa.[2]

Adref, adref am y cynta', Hwch Ddu Gwta a gipio'r ola'.

Rhigwm o Sir Ddinbych[3]

Yr hwch ddu gwta, mae'n debyg, oedd y tu ôl i'r hen ddywediad; "Nos Glan Gaea, bwgan ar bob camfa!" Yn ogystal â'r hwch ddu gwta, roedd ysbryd y ladi wen yn codi ofn ar rannau'r wlad.[3]

Cyfeiriadau[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
  1. Cwm Eithin gan Hugh Evans, Gwasg y Brython, 1931.
  2. Traethawd gan Charles Ashton: Bywyd Gweledig yng Nghymru ddechrau'r ganrif o'r blaen; 1890.
  3. 3.0 3.1 Owen, Trefor M. Welsh Folk Customs (Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1978 [1959]), 123–4.