Gwaseila

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae gwasael neu wasael yn fath o ddiod alcoholaidd wedi'i wneud o gwrw cynnes gyda sbeisys a arferid ei yfed ar Ŵyl Calan Gaeaf fel arfer. Gwaseila ydy'r arferiad o fynd o dŷ i dŷ gan gario'r ffiol yn llawn o'r wasael a hynny tan ganu. Yn ôl yr hanesydd Robin Gwyndaf, fe all seremoni'r Fari Lwyd fod yn hen amrywiad ar yr hen arfer o waseila pryd yr ymgorfforwyd ynddi elfen o gwlt ceffyl.[1]

Arferid gwaseila ar wyliau penodol, megis Calan Gaeaf, Y Nadolig, Nos Ystwyll, Gŵyl Fair y Canhwyllau a Chalan Mai.

Roedd ffiol y wasail yn arbennig o hardd a chedwir llawer o rai traddodiadol yn Sain Ffagan, wedi eu haddurno gyda dolenni cylchog.

Tarddiad y gair, mae'n debyg, ydy "Wassail" yn Saesneg, ond mae'r ddefod Geltaidd hon yn llawer hŷn na'r gair.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Chwedlau Gwerin Cymru gan Robin Gwyndaf, Amgueddfa Werin Cymru 1995.