Diafol

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Satan. Llun gan Gustave Doré ar gyfer argraffiad o Paradise Lost gan John Milton.

Y Diafol neu'r Diawl yw'r enw a roddir i fod goruwchnaturiol, a ystyrir gan Gristnogaeth, Islam a rhai crefyddau eraill fel ymgorfforiad o ddrygioni. Ystyrir fod y diafol yn temtio bodau dynol, gan geisio'u temtio i bechu.

Mewn Cristnogaeth, credir fod Duw a'r Diafol yn ymryson am eneidiau dynol, gyda'r Diafol yn ceisio eu cipio i uffern.

Geirdarddiad ac enwau eraill[golygu]

Daw'r gair "diafol" o'r Groeg Διάβολος diabolos ("athrodydd") Cafodd yr enw Groeg ei ddefnyddio mewn fersiynau Groeg o'r Beibl yn lle'r enw Hebraeg הַשָׂטָן ha-Satan ("y cyhuddwr") a roes yr enw Satan inni. Yn ogystal â Satan denyddir nifer o enwau am y Diafol, yn cynnwys Lwsiffer, Asmodeus, Asasel, Samael, Beelsebwl. Mastema a Belial. Yn Islam, cyfeirir at y Diafol fel شيطان, Iblis, sydd o bosib yn tarddu o diabolos - yr un tarddiad â diafl neu diafol yn Gymraeg.

Y Diafol yn ôl crefydd[golygu]

Cristnogaeth[golygu]

Mewn Cristnogaeth mae'r Diafol, dan yr enwau Satan, Lwsiffer a Beelsebwl fel arfer yn cael ei bortreadu fel angel a wrthryfelodd yn erbyn Duw ac fel canlyniad cafodd ei daflu i lawr i uffern. Mae ysgolheigion bellach yn derbyn bod y cyfeiriad at gwymp Lwsiffer yn Llyfr Eseia 14:12 ("seren ddydd" yn y Beibl Cymraeg Newydd)[nodiadau 1] mewn gwirionedd yn cyfeirio at frenin Babylonaidd.[1]

Fel yn achos y Zohar, mae Satan yn cael ei gysylltu â'r sarff a demtiodd Efa.

Iddewiaeth[golygu]

Er nad yw'r Diafol yn chwarae rôl bwysig mewn Iddewiaeth o'r brif ffrwd, yn y Zohar fe'i gelwir yn Samael, y "duw gwenwynig", yr angel dinistriol, yr ymgnawdoliad o bechod, y Sarff, yr Hen sarff, y Sarff Fawr, yr Ysbryd Drwg, y Temtiwr, a Satan. Fel yn y chwedl ynglŷn â Lwsiffer, roedd Samael yn angel grymus a ddisgynnodd i'r ddaear, ond yn wahanol i Lwsiffer disgynnodd Samael o'i wirfodd ar gefn sarff, ac ar ôl newid ei ffurf i ffurf sarff, fe demtiodd Efa gyda'r afal. Satan yw ei enw fel sarff, ond "beth bynnag yw ei enw, efe yw'r un a elwir yr ysbryd drygionus".[2][3]

Yn Llyfr y Jiwbilîs mae'r Diafol yn ymddangos dan yr enw y Tywysog Mastema, enw sy'n dod o'r Hebraeg משטמה mastemah ("casineb"; "gelyniaeth").

Islam[golygu]

Iblis

Mewn Islam cyfeirir at y Diafol gyda'r enwau شيطان, Iblis (o Διάβολος) a شيطان, Shayṭān ("gelyn"). Mae Iblis yn jinni (جني) sef yn fod neu ysbryd wedi ei greu o dân di-fwg yn lle o glai. Dyrchafwyd Iblis i sefyll ymhlith yr angylion, ond cafodd ei alltudio am beidio â phlygu o flaen Adda ar orchymyn Duw. Gwaith Iblis bellach yw temtio dynion, ac mae Iblis yn gwneud hynny gyda chaniatâd yr Hollalluog.

Mae'r Diafol yn ymddangos mewn rhyw 39 o swrâu yn y Coran.

Gweler hefyd[golygu]

Nodiadau[golygu]

  1. "O fel y syrthaist o'r nefoedd, ti, seren ddydd, fab y wawr! Fe'th dorrwyd i'r llawr, ti, a fu'n llorio'r cenhedloedd."

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Gweler er enghraifft Nave's Topical Bible, Holman Bible Dictionary a Adam Clarke Commentary.
  2. Sacred Texts: Zohar, The Kings Palaces
  3. Sacred Texts: Zohar, Chapter XVI