Imbolc

Oddi ar Wicipedia
Imbolc
Enghraifft o'r canlynolgŵyl, traddodiad Celtaidd, public holiday Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Dathliad Gŵyl Imbolg yn Marsden, Huddersfield; 30 Ionawr 2009. Y frwydr rhwng Sioni Rhew (ch) a'r Dyn Gwyrdd (dde).

Hen ŵyl Geltaidd yw Imbolc, sydd ar y 1af neu'r 2il o fis Chwefror, sef dechrau'r Gwanwyn. Enw Gwyddeleg yw Imbolc (ynganer: 'Imbolg'), gair sy'n golygu "yn y bol". Yn y cyfnod Cristnogol, daeth Gŵyl Fair y Canhwyllau i gymryd lle'r hen ŵyl Baganaidd yng Nghymru a nifer o wledydd eraill. Ni wyddom beth oedd yr enw cyn-Gristnogol ar yr ŵyl yng Nghymru, ond parhaodd rhai o draddodiadau ac arferion Imbolc yn rhan o ddathliad yr ŵyl Gristnogol gan y werin. Yn Iwerddon, roedd Brigit (cytras â Brigantia efallai; tarddiad enw Afon Braint, Môn) yn dduwies Geltaidd a daeth hon yn ŵyl y Santes Brigid (Cymraeg: Ffraid) yn Iwerddon; hi oedd duwies meddygaeth a gefail y gof. Roedd cysylltiad clos iawn rhwng yr ŵyl hon â'r arwyddion hynny fod y gwanwyn ar droed: mamogiaid yn llaetha er enghraifft.

Ar y calendr Celtaidd, mae ei lleoliad yn y canol rhwng Cyhydnos yr Hydref (Alban Arthan) a Chyhydnos y Gwanwyn (Alban Eilir).

Roedd tân a phuro yn chwarae rhan bwysig yn Imbolc. Cyneuid canhwyllau yn symbolau fod golau a gwres yr haul yn cryfhau o ddydd i ddydd.

Heddiw mae Imbolc yn achlysur pwysig i ddilynwyr Wica a chrefyddau neo-baganaidd eraill, a elwir "Gŵyl y Canhwyllau" yn Wica.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]