Fernão de Magalhães
| Fernão de Magalhães | |
|---|---|
Llun gan Anónimo, 1787 |
|
| Ganwyd | Fernão de Magalhães 1480 |
| Bu farw | Ebrill 27, 1521 (40–41 oed) Cebu, Pilipinas |
| Dinasyddiaeth | Sbaenwr |
| Cenedligrwydd | Portiwgalydd |
| Yn enwog am | Arweiniodd yr alldaith gylchfordaith gyntaf. |
| Llofnod | |
Fforiwr o Bortiwgal oedd Fernão de Magalhães (Sbaeneg: Fernando de Magallanes, Saesneg: Ferdinand Magellan) (Gwanwyn 1480–27 Ebrill, 1521). Bu iddo arwain y rhan gyntaf o'r fordaith gyntaf i gylchynu'r byd yn llwyddiannus, ond fe fu farw yn y Pilipinas cyn cwblhau'r daith.
Arweiniodd Magellan sawl mordaith i India ac Affrica ar ran Portiwgal rhwng 1505 a 1516.
Yn y flwyddyn 1519, dan nawdd Sbaen y tro yma, cychwynnodd gyda llynges fach o bum llong - ei faner-long Trinidad, y San Antonio, Concepcio, Victoria a'r Santiago - i geisio darganfod llwybr i ynysoedd y Molucca. Croesodd y Cefnfor Tawel ac aeth trwy'r culfor a enwir ar ei ôl (Culfor Magellan). Yng ngwanwyn 1521 cyrhaeddodd yr Indies ond cafodd Magellan ei ladd yn y Pilipinas.
Y Victoria oedd yr unig un o'r 5 llong i ddychwelyd i Sbaen, gan gwblhau dan gapteiniaeth Juan Sebastián del Cano, y cylchyniad cyntaf o'r byd.