Estrys

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Estrys
Amrediad amseryddol: Pleistosen–presennol
Ceiliog (chwith) a iâr (de), Penrhyn Gobaith Da, De Affrica.
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Struthioniformes
Teulu: Struthionidae
Genws: Struthio
Rhywogaeth: S. camelus
Enw deuenwol
Struthio camelus
Linnaeus, 1758
Dosbarthiad yr is-rywogaethau

Aderyn mwyaf y byd yw'r Estrys (Struthio camelus). Mae'r oedolyn yn 2.5 medr o daldra ac mae'n pwyso 115 cilogram.[1] Mae ganddo wddf a choesau hir ac mae gan ei draed ddau fys troed. Mae'n methu hedfan ond mae'n gallu rhedeg yn gyflym iawn.[1] Mae'r gwryw'n ddu gydag esgyll gwyn a chynffon wen; mae plu'r fenyw'n llwydfrown.[2]

Mae'r estrys yn bwydo ar weiriau, hadau, ffrwythau a dail.[1] Fe'i ceir mewn safana a lled-anialwch yn Affrica.[1] Ystyrir yr is-rywogaeth S. c. molybdophanes (Estrys Somalia) o Horn Affrica yn rhywogaeth wahanol gan rai dacsonomegwyr.[3]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Perrins, Christopher, gol. (2004) The New Encyclopedia of Birds, Gwasg Prifysgol Rhydychen.
  2. Sinclair, Ian & Peter Ryan (2003) Birds of Africa south of the Sahara, Struik, Tref y Penrhyn.
  3. Hennessey, Kathryn & Victoria Wiggins, goln. (2010) The Natural History Book, Dorling Kindersley, Llundain.

Dolenni allanol[golygu]

Ŵy Estrys
Bird template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am aderyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.