Eryr y Môr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eryr y Môr
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Falconiformes
Teulu: Accipitridae
Genws: Haliaeetus
Rhywogaeth: H. albicilla
Enw deuenwol
Haliaeetus albicilla
(Linnaeus, 1758)

Eryr yn perthyn i'r genws Haliaeetus a'r teulu Accipitridae yw Eryr y Môr (Haliaeetus albicilla). Mae'n perthyn yn agos i'r Eryr Moel.

Mae Eryr y Môr yn aderyn mawr, 69 – 91 cm (27 – 36 modfedd) o hyd a 182 – 238 cm (72 – 94 modfedd) ar draws yr adenydd. Pwysa'r ieir 4 – 6.9 kg (8.8–15.2 pwys), tra mae'r ceiliogod yn llai, 3 – 5.4 kg (6.6–12 pwys). Saif yn bedwerydd ymhlith eryrod y byd o ran maint.

Mae'n nythu ar draws gogledd Ewrop a gofledd Asia. Ceir poblogaeth fwyaf Ewrop o gwmpas arfordir Norwy. Pysgod ac adar yw eu prif fwyd, ond gall mamaliaid bychain fod yn bwysig hefyd.

Diflannodd y rhywogaeth o'r Alban yn y 19eg ganrif, ond yn 1975, gollyngwyd nifer o adar ar ynys Rùm i geisio ei adfer. Mae'r eryr yma yn awr yn nythu ar draws Ynysoedd Heledd a rhai ar dir mawr yr Alban. Mae rhaglen i geisio adfer y rhywogaeth i Iwerddon, a bu awgrym y gellid gwneud yr un peth yng Nghymru. Nid oes sicrwydd a fu'r rhywogaeth yn nythu yng Nghymru yn y gorffennol ai peidio, ond mae'n bosibl fod rhai o'r cyfeiriadau at "eryr" yn cyfeirio at y rhywogaeth yma yn hytrach na'r Eryr Euraid.

Dosbarthiad Eryr y Môr