Eryr Euraid
| Eryr Euraid | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Falconiformes |
| Teulu: | Accipitridae |
| Genws: | Aquila |
| Rhywogaeth: | A. chrysaetos |
| Enw deuenwol | |
| Aquila chrysaetos (Linnaeus, 1758) |
|
Mae'r Eryr Euraid ymhlith y mwyaf adnabyddus o'r adar rheibus. Fel yr eryrod i gyd, mae'n perthyn i'r teulu Accipitridae. Ar un adeg, roedd i'w gael; dros y cyfan o Ogledd America, Ewrop ac Asia, ond mae wedi diflannu o'r rhannau mwyaf poblog. Mae'n un o ddeuddeg rhywogaeth yn y genws Aquila.
Is-rywogaethau [golygu]
Ceir chwech is-rywogaeth:
- A. c. chrysaetos: Ewrasia heblaw Penrhyn Iberia, tua'r dwyrain i orllewin Siberia.
- A. c. canadensis: Gogledd America.
- A. c. daphanea: O dde Kazakhstan hyd Manchuria a gogledd-orllewin China gan gynnwys gogledd India a Pacistan.
- A. c. homeryi: Penrhyn Iberia a Gogledd Affrica, i'r dwyrain hyd at Twrci ac Iran.
- A. c. japonica: Japan a Korea.
- A. c. kamtschatica: Dwyrain Siberia, o Fynyddoedd Altai hyd Benrhyn Kamchatka.
Amrwyia'r maint mewn gwahanol rannau o'r byd, gyda hyd o 66 hys 100 cm (26-40 modfedd), a rhwng 150 a 240 cm (59-95 modfedd) ar draws yr adenydd, gyda'r pwysau'n amrywio o 2.5 hyd 7 kg (5.5-15.4 pwys).
Ym Mhrydain, mae tua 420 pâr yn Ucheldiroedd yr Alban, ac mae pâr wedi nythu yn Ardal y Llynnoedd yn Lloegr ambell flwyddyn yn ddiweddar. Credir iddynt nythu yn Eryri yn y gorffennol, ond nid oes sicrwydd hollol o hyn. Ar hyn o bryd mae ymgais i ddychwelyd y rhywogaeth i Iwerddon, lle nad oes rhai wedi bod ers 1912.