Mynyddoedd Altai
- Erthygl am y mynyddoedd yw hon. Am ystyron eraill gweler Altai.
Cadwyn o fynyddoedd uchel yng nghanolbarth Asia mewn ardal lle mae ffiniau Rwsia, Gweriniaeth Pobl China, Mongolia a Kazakhstan yn cwrdd a lle gorwedd tarddleoedd afonydd Irtysh, Ob a Yenisei yw Mynyddoedd Altai, neu'r Altai (Rwseg: Алтай Altay; Mongoleg: Алтай Altay). Yr Altai yw mamwlad y pobloedd Twrcig. Mae'n ymestyn o'r gogledd-orllewin lle mae'n cyffwrdd â Mynyddoedd Sayan (i'r dwyrain), ac yn ymestyn oddi yno i gyfeiriad y de-ddwyrain hyd at tua 45° Gog. 99° Dwy., lle mae'n graddol golli uchder gan ymdoddi i lwyfandir uchel Anialwch y Gobi.
Ystyr yr enw, Altay/Altau/Altai yw "Mynydd(oedd) Aur" (al "aur" + tau "mynydd"). Mae'r teulu iaith Altaig yn cael ei enwi o'r gadwyn.
Mae ardal anferth 16,178 km² - Gwarchodfeydd Natur Altai a Katun, Llyn Teletskoye, Mynydd Belukha a Llwyfandir Ukok - wedi cael ei dynodi gan UNESCO yn Safle Treftadaeth y Byd dan yr enw Mynydoedd Euraidd yr Altai. Mae'n cynnwys enghreifftiau gwych o bob cynefin pwysig a geir yn Siberia ac yn gartref i sawl anifail prin fel llewpardiaid yr eira a'r argali'r Altai.
Mae copaon mawr yr Altai yn cynnwys Mynydd Khüiten, copa uchaf Mongolia. Ceir nifer o lynnoedd ac afonydd.