Afon Ob

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dalgylch Afon Ob

Afon yn Siberia yn Rwsia yw afon Ob. Mae'n un o afonydd mwyaf Siberia, ac yn 5,410 km o hyd.

Ffurfir yr afon pan mae dwy afon yn cyfarfod, afon Katun ac afon Bieja, y ddwy yn tarddu ym mynyddoedd Altai. Ymunant ger tref Biejsk i ffurfio'r Ob. Ger Khanty-Mansiysk mae afon Irtysh yn ymuno a hi, afon sy'n hwy na'r Ob ei hun. Llifa'r afon i mewn i Gwlff Ob.

Novosibirsk yw'r ddinas fwyaf ar afon Ob.

Afon Ob yn Barnaul