Empire of the Sun (ffilm)
Empire of the Sun |
|
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Steven Spielberg |
| Cynhyrchydd | Kathleen Kennedy Frank Marshall Steven Spielberg |
| Ysgrifennwr | J. G. Ballard (nofel) Tom Stoppard Menno Meyjes |
| Serennu | Christian Bale John Malkovich Miranda Richardson Nigel Havers |
| Cerddoriaeth | John Williams |
| Sinematograffeg | Allen Daviau |
| Golygydd | Michael Kahn |
| Cwmni Cynhyrchu | Warner Bros Amblin Entertainment |
| Dyddiad rhyddhau | 9 Rhagfyr 1987 |
| Amser rhedeg | 154 munud |
| Gwlad | Unol Daleithiau |
| Iaith | Saesneg |
| (Saesneg) Proffil IMDb | |
Ffilm ryfel Saesneg yw Empire of the Sun (1987). Cyfarwyddwyd gan gan Steven Spielberg, ac mae'n serennu Christian Bale, John Malkovich, a Miranda Richardson. Mae'n seiliedig ar y nofel o'r un enw gan J.G. Ballard; addaswyd ar gyfer y sgrîn gan Tom Stoppard a Menno Meyjes. Adrodda Empire of the Sun hanes Jamie "Jim" Graham, sydd yn datlygu fel unigolyn o fyw gyda theulu Prydeinig cefnog yn Shanghai i fod yn garcharor rhyfel yng Nghanolfan Ymgynnull Sifiliaid Lungha, gwersyll Siapaneaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Yn wreiddiol roedd Harold Becker a David Lean i fod cyfarwyddo'r ffilm cyn i Spielberg gymryd yr awennau. Roedd gan Spielberg ddiddordeb mewn cyfarwyddo Empire of the Sun oherwydd ei gysylltiad personol i ffilmiau Lean ac i'r thema o'r Ail Ryfel Byd. Ystyria Spielberg y ffilm hon fel ei waith mwyaf dwys ar "golli diniweidrwydd". Deliai nofel Ballard gyda'r thema o ddewrder ond unwaith eto creodd Spielberg ffilm a oedd yn ymdrin â phlant yn cael eu gwahanu o'u rhieni. Fodd bynnag, nid oedd y ffilm yn lwyddiant enfawr yn y theatrau er iddi gael ei chanmol yn fawr gan y beirniaid.
Plot [golygu]
Mae plentyndod braf llanc ysgol Seisnig ifanc, Jamie Graham (ymddangosiad cyntaf Christian Bale mewn ffilm) yn byw gyda'i rieni cyfoeddog mewn ardal moethus o Shanghai yn dod ben yn sydyn yn 1941 pan mae Ymerodraeth Japan, yn lawnsio rhyfel yn erbyn yr Unol Daleithiau, Prydain a'r Iseldiroedd.
Ar doriad y wawr un bore, mae Jim yn gweld kamikaze defod tri peilot Siapaneaidd yn y maes awyr. Mae defodoliaeth y seremoni yn achosi iddo gael ei gymryd drosto gan emosiwn, mae'n dechrau canu emyn Cymreig "Suo Gân" a ganodd fel bachgen côr ifanc yn Shanghai.
Cast [golygu]
| Actor | Cymeriad |
|---|---|
| Christian Bale | James "Jamie" Graham |
| John Malkovich | Basie |
| Miranda Richardson | Mrs. Victor |
| Nigel Havers | Dr. Rawlins |
| Joe Pantoliano | Frank Demarest |
| Leslie Phillips | Maxton |
| Masatō Ibu | Sgt. Nagata |
| Emily Richard | Mary Graham (Mam Jamie) |
| Rupert Frazer | John Graham (Tad Jamie) |
| Peter Gale | Mr. Victor |
| Takatoro Kataoka | Kamikaze boy pilot |
| Ben Stiller | Dainty |
| David Neidorf | Tiptree |
| Ralph Seymour | Cohen |
| Robert Stephens | Mr. Lockwood |
| Zhai Nai She | Yang |
| Guts Ishimatsu | Sgt. Uchida |
| Emma Piper | Amy Matthews |
| James Walker | Mr. Radik |
| Jack Dearlove | Carcharwr sy'n canu |
| Anna Turner | Mrs. Gilmour |
| Ann Castle | Mrs. Phillips |
| Yvonne Gilan | Mrs. Lockwood |
| Ralph Michael | Mr. Partridge |
| Sybil Maas | Mrs. Hug |